Ymchwiliad Covid-19: Mark Drakeford wedi tybio mai Llywodraeth y DU fyddai yn rheoli’r ymateb i’r pandemig
Roedd Mark Drakeford wedi tybio mai Llywodraeth y DU fyddai yn cymryd rheolaeth o ymateb Cymru i’r pandemig, yn ôl yr hyn gafodd ei ddweud yn yr ymchwiliad heddiw.
Clywodd ymchwiliad Covid-19 bod y Prif Weinidog wedi bod dan yr argraff honno hyd nes ddyddiau yn unig cyn y clo mawr cyntaf ym mis Mawrth 2020.
Ni wnaeth ddarganfod mai Llywodraeth Cymru fyddai yn llywio’r ymateb hyd nes 20 Mawrth, dridiau ynghynt.
Dywedodd Tom Poole CB, prif gwnsler yr ymchwiliad, bod cyflwyniad yr Athro Dan Wincott, arbenigwr ar Lywodraeth Cymru, yn awgrymu nad dyna “oedd y Prif Weinidog wedi ei ddisgwyl”.
Roedd Mark Drakeford dan yr argraff y byddai Senedd San Steffan yn defnyddio grymoedd dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl, meddai.
Fe fyddai hynny wedi caniatáu i Lywodraeth y DU oruwchreoli ymateb y llywodraethau datganoledig.
Ond fel ag yr oedd, am nad oedd y pandemig yn “ddigwyddiad nad oedd modd ei ragweld” doedd dim modd defnyddio'r ddeddf honno.
O ganlyniad defnyddiwyd deddfwriaeth iechyd - pwnc sydd wedi ei ddatganoli i Gymru - gan ganiatáu i Lywodraeth Cymru lywio’r ymateb eu hunain.
Roedd Mark Drakeford yn fodlon gyda’r penderfyniad ond ni chafodd ei wneud “yn ffurfiol hyd nes 20 Mawrth,” meddai Tom Poole.
'Diffyg eglurder'
Cytunodd yr Athro Wincott fod Mr Drakeford wedi rhagdybio y byddai unrhyw “bŵer i wneud y penderfyniadau sylfaenol” yn aros gyda Llywodraeth y DU.
“Mae’n sicr yn ymddangos mai dyna oedd dealltwriaeth y Prif Weinidog o’r sefyllfa,” meddai.
Ychwanegodd yr Athro Wincott mai dyna’r “farn gyffredinol” ymhlith cenhedloedd datganoledig eraill ond bod “diffyg eglurder” yn nyddiau cynnar y pandemig.
Dywedodd fod rheolau gwahanol yn dalcen caletach yng Nghymru “am nad oes cyfryngau cryf sy’n canolbwyntio ar Gymru” a bod pobl yn tueddu i gael eu newyddion o Lundain.
Dywedodd Prif Weinidog y DU ar y pryd, Boris Johnson, yn ei dystiolaeth ef i’r pwyllgor y dylai ei lywodraeth fod wedi ystyried mewn rhagor o fanylder sut i atal rheolau gwahanol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.