Apêl ariannol i ddod â chorff rhwyfwr yn ôl i Gymru yn cyrraedd £20,000
Mae apêl i godi arian i ddod â chorff rhwyfwr o Wynedd adref i Gymru wedi llwyddo i gasglu dros £20,000.
Fe gafodd Michael Holt, a oedd yn rhwyfo o Gran Canaria i Barbados ar ei ben ei hun, ei ddarganfod yn farw yng nghaban ei gwch dros y penwythnos.
Roedd Mr Holt wedi cyflawni 700 milltir o'i daith elusennol pan ddaeth i'r amlwg ei fod wedi dechrau teimlo'n sâl.
Dywedodd teulu Mr Holt eu bod wedi "gweithio’n ddiflino" i gael cymorth i Michael ond wedi’i chael hi’n "anodd dros ben" i wneud hynny.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd David Holt bod ei frawd wedi marw yn "gwneud rhywbeth yr oedd wir eisiau ei wneud".
"Mae hyn yn sioc enfawr i mi, ei wraig Lynne a’i ferch Scarlett a fy rhieni, heb sôn am deulu a ffrindiau enhangach," meddai.
"Diolch yn fawr am y geiriau a'r dymuniadau caredig yr ydych eisoes wedi anfon atom dros y dyddiau diwethaf. Maen nhw’n golygu llawer iawn i’r teulu i gyd."
Mae'r apêl i godi arian ar wefan GoFundMe bellach wedi casglu dros £20,000, sydd yn fwy na'r targed.
Dywedodd y teulu y bydd unrhyw arian dros ben yn cael ei roi i Mind ac LCVS, yr elusennau yr oedd Mr Holt yn eu cefnogi.