Newyddion S4C

Dave Myers, un o'r Hairy Bikers, wedi marw yn 66 oed

29/02/2024
Yr hairy bikers

Mae’r cogydd teledu Dave Myers, un o’r Hairy Bikers, wedi marw yn 66 oed.

Cyhoeddodd ei gyd-seren Si King ei farwolaeth mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Daeth i amlygrwydd ar y teledu gyda’i gyfaill ers 30 mlynedd fel rhan o’r pâr o gogyddion.

Cyrhaeddodd gynulleidfa newydd pan ymddangosodd ar Strictly Come Dancing yn 2013 gyda’i bartner dawnsio Karen Hauer.

Cyhoeddodd Dave Myers (ar y dde uchod) o Swydd Cumbria ei fod yn derbyn triniaeth am ganser ym mis Mai 2022.

Mewn datganiad dywedodd Si King fod ganddo “newyddion trist”. 

“Bydd y rhan fwyaf ohonoch yn gwybod bod Dave wedi bod yn brwydro yn erbyn canser am yr ychydig flynyddoedd diwethaf,” meddai.

“Neithiwr, ar 28 Chwefror 2024, gyda Lili, gwraig Dave, ei deulu, ei ffrindiau agos a minnau wrth ei ochr, bu farw’n dawel yn ei gartref.”

Ychwanegodd: “Yn bersonol, dydw i ddim yn siŵr y gallaf roi mewn geiriau sut rydw i’n teimlo ar hyn o bryd. Mae fy ffrind gorau ar daith na allaf ei dilyn am y tro.

“Byddaf yn gweld ei eisiau bob dydd a’r cwlwm a’r cyfeillgarwch a rannwyd gennym dros ail hanner ein bywydau. 

“Wela i chdi ar yr ochr arall. Caru chdi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.