Newyddion S4C

Teyrngedau i Mags Harries, Telynores Llwchwr

28/02/2024
Maggs Harries

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r delynores a’r berfformwraig, Mags Harries, a fu farw yn ddiweddar.

Roedd yn eisteddfodwraig brofiadol iawn, gan gystadlu am y tro cyntaf pan yn dair oed, a hynny yn yr eisteddfod yng Nghasllwchwr.

Roedd yn wyneb amlwg ar lwyfannau ledled y wlad, ac yn cael ei hystyried fel person oedd wastad yn "llawn hiwmor".

Wrth siarad ar ei rhaglen brynhawn Sul ar BBC Radio Cymru, dywedodd y gyflwynwraig Ffion Dafis: "Rydan ni gyd ar y rhaglen yma yn cydymdeimlo'n fawr â Phyl, roedd [Mags] yn ddynes fendigedig ac annwyl, yn delynores yr oeddem i gyd yn ei hadnabod ac roedd yn llawn hiwmor."

Fe gafodd ei derbyn fel aelod yng Ngorsedd y Beirdd pan yn 12 oed, gan ddod y person ifancaf i gael ei derbyn i'r Orsedd erioed, ac fe ddewisodd yr enw Telynores Llwchwr fel ei henw gorseddol.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Theatr Clwyd: "Trist iawn ydym o glywed y newyddion am farwolaeth Mags Harries. 

"Yn gynnes ac yn garedig, ac yn gerddor talentog, roedd hi yn aelod o deulu’r theatr am dros 20 mlynedd, fel cefnogwr Theatr Clwyd ac o’i gŵr, Phyl. 

"Bydd colled enfawr ar ei hôl. Gyda chydymdeimlad i Phyl a’r teulu."

Image
Maggs a Phill

Roedd Mags yn briod â'r actor Phyl Harries. 

Mae Phyl ar hyn o bryd yn rhan o gast sioe gerdd Turning the Wheel gan Kieran Bailey yn Theatr Parc a'r Dâr yn Nhreorci.

Sioe yw hon sy'n dathlu hanes, hiwmor, caledi a hiraeth yng nghymoedd glofaol De Cymru, ac mewn cyfweliad â Radio Cymru yn ystod ymarferion y sioe, fe roddodd Phyl deyrnged i'w 'bartner oes'.

"Blwyddyn diwethaf pan wnaethom ni'r sioe gyntaf, roedd Mags gyda fi, mai wedi bod gyda fi ym mhob show dros y blynydde diwethaf.

"Roedd hi wrth ei bodd gyda'r sioe, roedd yn iniaethu gyda bywyd y glowyr, roedd ei thad yn glöwr.

Image
Turning the Wheel

"Roedd hi wrth ei bodd yn gwrando ar y gerddoriaeth, yn meddwl  bod y caneuon a'r lleisiau yn fendigedig.

"Yn wir, tra roedd hi yn yr ysbyty am fyr o amser, bues i yn canu iddi ac yn ymarfer y caneuon - roedd hi yn gwenu ac wrth ei bodd yn clywed y caneuon.

"So dwi'n mynd i gario 'mlaen, ac mae bod yn rhan o'r sioe yma yn gymorth i mi."

Mae'r sioe Turning the Wheel yn cael ei pherfformio er cof am Mags Harries.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.