Newyddion S4C

Lansio gwasanaeth 111 yn y gogledd

22/06/2021
Lansio 111
Lansio 111

Bydd rhif 111 y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn lansio yn y gogledd ddydd Mawrth.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig gofal meddygol brys y tu allan i oriau dros y ffôn.

Yn ddibynnol ar symptomau, fe all pobl gael eu cyfeirio at Uned Mân Anafiadau neu drefnu apwyntiad brys gyda’r meddyg teulu drwy ffonio 111.

Bydd yn lansio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am 12:00.

Dywed y Gwasanaeth Iechyd fod y gwasanaeth yn cael ei staffio gan dîm o nyrsys, meddygon a fferyllwyr, gyda ymdrinwyr galwadau newydd wedi’u hyfforddi ar gyfer y lansiad.

Dywedodd Dr Chris Stockport o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Nawr mae gan gleifion ffordd hawdd iawn o gael mynediad at wybodaeth gofal iechyd a gofal brys 24/7.

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu pobl i gael yr wybodaeth, yr arweiniad a’r driniaeth gywir, yn y lle cywir ar yr amser cywir.”

Mae’r GIG yn pwysleisio na ddylai’r rhif gael ei ddefnyddio mewn argyfwng.

Mae’r gwasanaeth ar gael yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Powys, Hywel Dda, Aneurin Bevan, Cwm Taf Morgannwg, a nawr, Betsi Cadwaladr.

Dylai pobl tu allan i’r ardaloedd hyn barhau i ffonio ar 0845 46 47.

Llun: Guvo59

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.