Newyddion S4C

SNP yn gwthio am ddadl arall yn Nhŷ'r Cyffredin ar Gaza yn dilyn pleidlais 'gwarthus'

25/02/2024
 Stephen Flynn

Mae'r SNP yn dweud y bydd yn gwthio am ddadl arall yn Nhŷ'r Cyffredin ar Gaza yn dilyn y bleidlais "gwarthus" ar y rhyfel ddydd Mercher.

Roedd cynnwrf yn Nhŷ’r Cyffredin pan wnaeth y Llefarydd Syr Lindsay Hoyle ganiatau i ASau bleidleisio ar welliant Llafur i gynnig cadoediad yr SNP.

Roedd yn golygu na phleidleisiwyd ar gynnig yr SNP, gan arwain at galwadau gan y blaid ar Syr Lindsay Hoyle i roi'r gorau i'w swydd fel Llefarydd.

Mae'r SNP nawr yn dweud y byddan nhw'n gwneud cais am ddadl arall ar y mater yr wythnos nesaf.

Mae Syr Lindsay Hoyle, sydd wedi ymddiheuro am y modd y gwnaeth ymdrin â'r ddadl, eisoes wedi nodi y byddai'n caniatáu dadl newydd o dan reolau brys.

Gallai hyn fod yn lletchwith i Lafur, sydd wedi newid eu safiad ar ryfel Israel-Hamas yn ddiweddar.

'Cadarn'

Mewn datganiad, dywedodd yr SNP eu bod am gael dadl frys ar gynnig yn nodi “camau cadarn” y gallai’r DU eu cymryd i geisio sicrhau cadoediad yn y Cenhedloedd Unedig.

Dywedodd arweinydd y blaid yn San Steffan, Stephen Flynn, y byddai hyn yn caniatáu i ASau "symud y ddadl yn ei blaen" drwy roi pwysau ar y Llywodraeth i gymryd safiad mwy cadarn o blaid cadoediad.

Meddai: “Bydd yr SNP yn ceisio ailffocysu’r drafodaeth i ffwrdd o syrcas San Steffan ac ymlaen at yr hyn sy’n wirioneddol bwysig – gan wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cadoediad ar unwaith yn Gaza ac Israel.

“Tra bod yr olygfa warthus yn San Steffan wedi bod yn hynod annifyr, mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud.

"Mae pwysau gan y cyhoedd a’r SNP wedi gorfodi’r prif weinidog nesaf, Syr Keir Starmer, i wneud dro pedol – nawr mae angen i ni gydweithio i orfodi Llywodraeth y DU i newid ei safbwynt hefyd.”

Dywedodd yr SNP eu bod am wneud cais am y ddadl trwy drefn sy'n cael ei defnyddio ychydig yn Nhŷ'r Cyffredin, sy'n caniatáu i ddadleuon brys gael eu cynnal ar fyr rybudd.

Ond mae rheolau Tŷ’r Cyffredin yn awgrymu mai dim ond ar gyfer pleidlais ar gynnig niwtral y mae’r broses yn caniatáu, lle mae ASau yn dweud yn syml eu bod wedi ystyried mater yn gyffredinol yn hytrach na gwneud penderfyniad.

Fe fydd yn rhaid i’r SNP wneud cais ffurfiol am y ddadl ar ôl i Dŷ’r Cyffredin ddychwelyd ddydd Llun, a allai ysgogi craffu o’r newydd ar y modd y gwnaeth Mr Hoyle ymdrin â gweithdrefn Tŷ’r Cyffredin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.