Newyddion S4C

Gaza: Llefarydd Tŷ'r Cyffredin dan bwysau wedi i ASau gerdded allan

Gaza: Llefarydd Tŷ'r Cyffredin dan bwysau wedi i ASau gerdded allan

Mae Llefarydd Tŷ'r Cyffredin dan bwysau i ymddiswyddo am y ffordd y deliodd â dadl yn y siambr ddydd Mercher.

Mae dros 50 o ASau wedi arwyddo cynnig o ddiffyg hyder yn Syr Lindsay Hoyle.

Mae Syr Graham Brady, yr AS Torïaidd sydd â gofal dros Bwyllgor 1922 Ceidwadwyr meinciau cefn 1922, ymhlith y llofnodwyr.

Mae Stephen Flynn, arweinydd yr SNP yn San Steffan, wedi dweud nad oes gan ei blaid hyder yn rôl y Llefarydd ac yn gofyn am bleidlais ar ei ddyfodol.

Ddydd Iau dywedodd un o weinidogion Llywodraeth y DU, Maria Caulfield, fod Llefarydd Tŷ’r Cyffredin wedi “tanseilio” ei hyder.

Wrth ymateb dywedodd Lindsay Hoyle fod ganddo "ddyletswydd gofal ac os mai gofalu am aelodau yw fy nghamgymeriad, rwy’n euog o hynny".

Roedd Lindsay Hoyle yn cadeirio dadl ym mhrif siambr Tŷ'r Cyffredin, oedd yn trafod galw am gadoediad yn Gaza.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth yn y Tŷ, wrth i ASau o Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP), Plaid Cymru a rhai Torïaid gerdded allan o’r siambr mewn ffrae danboeth dros bleidlais ar y cadoediad.

Mewn ymateb i weithredoedd y Llefarydd fe adawodd nifer fawr o ASau'r Tŷ yn dilyn gweiddi a dadlau blin.

Ymddiheuro

Roedd ASau wedi pasio cais gan y Blaid Lafur am “gadoediad dyngarol ar unwaith” yn Gaza.

Roedd y cais yn welliant i gynnig a gyflwynwyd yn wreiddiol gan yr SNP sydd wedi bod yn ymgyrchu am gadoediad ar unwaith yn Gaza.

Roedd Syr Lindsay Hoyle eisoes wedi dewis gwelliannau'r llywodraeth a'r Blaid Lafur, gan dorri ar gonfensiwn y Tŷ.

Fe ddaeth y ddadl yn dilyn sesiwn holi 'Cwestiynau'r Prif Weinidog', pan ddywedodd Rishi Sunak nad oedd galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza, heb gynllun ar gyfer datrysiad parhaol, “er budd neb”.

Fe gamodd Syr Lindsay o'r gadair yn dilyn yr anghydfod, ac fe ddaeth ei ddirprwy, Y Fonesig Eleanor Laing i gadeirio'r trafodaethau, ond fe ddychwelodd Syr Lindsay yn ddiweddarach er mwyn ymddiheuro i ASau am golli rheolaeth yn gynharach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.