Newyddion S4C

Y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru: Dros 150 o swyddi dan fygythiad

Newyddion S4C 22/02/2024

Y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru: Dros 150 o swyddi dan fygythiad

Yn sgil toriadau o 10.5% yn eu cyllidebau, mae dau o brif sefydliadau diwylliannol Cymru yn wynebu colli degau o swyddi.

Yn ôl Undeb PCS, mae 95 o swyddi mewn perygl ar hyd safleoedd Amgueddfa Cymru. Gallai hyd at 50 o swyddi ddiflannu yn y Llyfrgell Genedlaethol cyn Ebrill 1af, gyda 20 arall  dan fygythiad yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn siarad ar ran Undeb PCS, dywedodd Doug Jones bod toriadau staffio eisoes yn golygu bod y Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio gyda’r niferoedd lleiaf posib o weithwyr ac y byddai colli rhagor yn bygwth gwasanaethau craidd.

“Mae’n codi’r cwestiwn shwt mae nhw’n mynd i allu gwneud y gwaith allweddol mae’r llyfrgell yn ei wneud. Shwt y bydda nhw’n gallu parhau i gasglu, i gofnodi, a rhannu’r deunyddiau hanesyddol yma gyda’r cyhoedd fel y mae nhw’n gwneud nawr?

"A hefyd, cadwraeth yr adeilad, diogelwch yr adeilad a diogelwch digidol. A mae nhw’n swyddi arbenigol sy’n talu’n dda, a bydd y gwaith fydd yn mynd gyda’r staff hefyd yn codi pryder o ran gwybodaeth hanesyddol y sefydliad.”

Mae gan Amgueddfa Cymru 7 safle i gyd - sy’n denu 1.3 miliwn o ymwelwyr yn flynyddol. Mae toriad o 10.5% yn y gyllideb gyfystyr â  cholli £3 miliwn.

Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru Jane Richardson eu bod yn chwilio am ffyrdd newydd o gael arian, ac yn edrych ar eu costau gweithredu, ond mai lleihau nifer y gweithwyr fydd y prif ffordd o leihau gwariant.

“Rhaid i ni fod yn ymwybodol o effaith hir dymor y toriadau yma ar Amgueddfa Cymru yn ogystal â’r sector diwylliannol ehangach yng Nghymru.”

Ychwanegodd Jane Richardson “Yn ariannol, dyma’r toriad mwyaf erioed yn hanes yr amgueddfa, a bydd yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu o ddydd i ddydd.”

Yn ôl Doug Jones o Undeb PCS, rhaid derbyn y gallai'r toriadau gael effaith ar  oriau agor y safleoedd.

“Falle bydd yr oriau agor yn lleihau. Mae gen i bryderon am hynny. Falle bydda nhw’n cau yn dymhorol, neu leihau oriau yn dymhorol, fydd yn meddwl llai o fynediad i’r cyhoedd i’r safleoedd yma.”

 Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:  “Rydym wedi bod yn glir wrth baratoi ein cyllideb ddrafft, bod ein cyllideb bellach werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real o gymharu a beth gafodd ei glustnodi yn 2021.

" Rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd ofnadwy. Bydd y gyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf.”

 Fe fydd Undeb PCS yn mynd â’u pryderon at Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth nesaf ac yn protestio wrth risiau’r Senedd.

 “Ni’n galw ar y Llywodraeth i wrthdroi’r toriadau yma. Da ni’n teimlo y bydd yr effaith yn drychinebus ar y sector. Mae angen sicrhau model ariannu cynaliadwy i’r sector wrth i ni symud ymlaen,” meddai Doug Jones.

 “Ar ben hynny, mae ymchwil yn dangos, bod pob £1 sy’n cael ei buddsoddi yn y sector, yn dod â £5 yn ôl i’r economi, ac fe ddaeth yr Amgueddfa a £83 miliwn i’r economi yn 2020.”

Mae’r Undeb yn dal i obeithio gallu pwyso ar y Llywodraeth i ail-feddwl, ond o wynebu diswyddiadau gorfodol, mae Doug Jones yn dweud eu bod hefyd yn barod i ystyried streicio.

“Ni’n gweithio gyda’r sefydliadau er mwyn ceisio lleihau effaith y toriadau ond os oes rhaid derbyn diswyddiadau gorfodol, mi fyddwn ni’n ystyried pob opsiwn.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.