Tân mewn canolfan ailgylchu yng Nghlydach

Tân mewn canolfan ailgylchu yng Nghlydach
Mae tân mawr yn llosgi mewn canolfan ailgylchu yng Nghlydach, Abertawe brynhawn dydd Llun.
Cafodd swyddogion eu galw i Stad Ddiwydiannol Players am 12:09 ar ôl i fwg gael ei weld yn codi o'r safle.
Y gred yn ôl ITV Cymru yw bod metel a deunydd teiars wedi’u llosgi yn y tân.
Mae pobl yn cael eu hannog i aros yn eu cartrefi ac i gadw eu ffenestri ar gau wrth i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddelio gyda’r digwyddiad.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Fideo: Gemma Parry