Newyddion S4C

'Ma'n dangos bod y babi wedi bodoli': Galw am gynnig tystysgrif i rieni sy'n colli baban yn gynnar

22/02/2024
elan arfor.png

Mae dynes o Ynys Môn a gollodd ei babi yn 22 wythnos oed wedi galw ar Lywodraeth Cymru  i gynnig tystysgrif i rieni mewn sefyllfa debyg i gydnabod eu colled.

Fe fydd pob rhiant sydd wedi colli plentyn cyn 24 wythnos oed yn Lloegr bellach yn gallu derbyn tystysgrif sy'n cydnabod bodolaeth eu babi yn swyddogol.

Mae babi sy'n cael ei eni yn farw ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd yn cael ei adnabod fel genedigaeth farw, ac mae eu marwolaethau yn cael eu cofnodi yn swyddogol. 

Ym mis Awst 2021, roedd Elan Arfor Connor, 28 oed o Ynys Môn, bron i 22 wythnos yn feichiog, ond bu'n rhaid iddi fynd i'r ysbyty ar ôl dioddef poen anarferol.

Ar ôl cael ei gweld gan fydwraig a sylweddoli y byddai hi'n rhoi genedigaeth y diwrnod hwnnw, rhoddodd Ms Connor enedigaeth i'w mab, Elis, ond bu farw ychydig funudau ar ôl ei eni.  

"18:20 y noson yna, nes i eni fy mab i a nath o farw munudau ar ôl i fi gael o," meddai Ms Connor.

Image
elan
Fe gollodd Elan Arfor Connor ei mab, Elis, ar ôl 22 wythnos o feichiogrwydd.

Mae'r profiad hunllefus hwnnw yn parhau yn fyw yng nghof Ms Connor hyd heddiw.

"Oedd o y peth mwyaf traumatic i ddigwydd...nath dŵr fi fynd tra o'n i'n sefyll a nes i deimlo fy nghorff i jesd yn trio pwshio fo allan ag erbyn yr amser i fi sylwi mai dyna oedd yn digwydd, dim ond fi a fy ngŵr i oedd yn yr ystafall felly nath fy ngŵr i redeg allan i drio cael help," meddai.

"Erbyn i bawb arall ddod i mewn, o'n i wedi geni fo fy hun a nes i eni fo i mewn i fy llaw fy hun. O'n i mewn sioc so o'n i cau symud."

Dywedodd un o'r bydwragedd wrth Ms Connor na fyddai'n gallu derbyn tystysgrif oherwydd ei fod yn llai na 24 wythnos. 

"Pan ti yn y sefyllfa na pan ti mewn sioc, a ma' hyn newydd ddigwydd i chdi a ti newydd weld dy fab di'n marw yn dy freichia di, ti ddim yn meddwl am be ma' nhw'n ddeud," meddai. 

Image
elan
Mae Ms Connor yn awyddus i weld tystysgrif colledion beichogrwydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru hefyd.

Ond wrth adael yr ysbyty, dechreuodd Ms Connor feddwl nad oedd yn gywir iddi beidio derbyn tystysgrif.

"Dwi'n cofio meddwl i fy hun bo' hyn ddim yn iawn, dwi'n gadael yr hospital heb fy mab i, dwi'n gadael efo bocs a certificate 'ma nhw di sgwennu, dio ddim yn certificate iawn," meddai.

"Fedrai'm siarad dros genod erill sydd 'di bod yn y sefyllfa dwi 'di bod ynddi ond i fi'n bersonol, nath fi a fo (Elis) ddim mynd trwy hynna idda fo jyst gael ei anghofio. Dwi'n gwbod fysa ni 'di cofio fo, ond o'n i'n teimlo bod o ddim y iawn.

"Dwi 'di cario fo trwy gyd o'r amsar 'ma, o'dd o'n fyw pan gafodd o ei eni, a dwi yn gorfod cario mlaen efo bywyd fi wan a does 'na ddim byd i ddeud oedd o yma yn iawn. Ma' 'na angan bod rwbath lle os dio'n gallu rhoi bach o comfort i'r fam sydd 'di colli'r babi 'na, pam ddylsa nhw ddim gael o?"

'Lot o gymorth'

Ar ôl ceisio cyngor oddi wrth famau ac elusennau, fe wnaeth Elan ddarganfod y dylai hi allu derbyn tystysgrif oherwydd bod Elis yn fyw pan gafodd ei eni.

"Ym mis Rhagfyr 2021, ges i alwad ffôn i ddeud oedd y doctor 'di signio off i ddeud bod o'n fyw pan gafodd o'i eni a felly nes i fynd i Gaernarfon i nôl y tystysgrif," meddai.

"Ond ddylsa bo' fi ddim wedi gorfod ffraeo gymaint i gael hynna tra o'n i'n sal ar ôl gael o, o'n i 'di cael blood clot ar ôl geni fo, felly o'n i mewn lot o boen a wedyn yn grieveio ar ben bob dim.

"Os ma' hynna yn helpu y ddynas 'na i copio efo be ma' nhw 'di bod trwy a mynd on efo bywyd nhw - os 'di hynna yn helpu nhw, pam ddim rhoi hynna iddyn nhw?

"Dwi'n meddwl fysa fo'n lot o gymorth i'r bobl 'ma i ddeud bod y babi wedi bodoli, nai ddim anghofio bod o yma."

Mae Ms Connor yn awyddus i weld yr un peth yn digwydd yng Nghymru. 

"Dwi jyst ddim yn gallu gweld pam ddylsa ni ddim dilyn efo nhw?

"Di hyn ddim yn achosi unrhyw broblema i neb felly dilyn efo nhw a rhoi dipyn bach o gymorth i'r merched eraill 'ma yng Nghymru sydd yn teimlo fel ma' nhw'n left out rili."

'Cydnabod colled beichiogrwydd yn swyddogol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae pob teulu sy'n dioddef colled beichiogrwydd mewn unedau mamolaeth yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan fydwragedd ac elusennau fel Sands, ac yn cael cynnig blychau atgofion sy’n cynnwys tystysgrif. 

"Rydym hefyd yn gweithio gyda swyddogion yn Lloegr i ymchwilio i gyflwyno’r broses dystysgrif ar hyd a lled Cymru i gydnabod colled beichiogrwydd yn swyddogol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.