‘Gallwn fod yn marw fan hyn’:Atgofion Tom Lockyer o'i galon yn stopio yng nghanol gêm
Mae capten Luton ac amddiffynnwr Cymru Tom Lockyer wedi bod yn siarad yn gyhoeddus am oroesi pan stopiodd ei galon mewn gêm ym mis Rhagfyr.
Mewn cyfweliad gyda Sky cyn gêm Luton yn erbyn Manchester United ddydd Sul dywedodd Lockyer, sydd wedi ennill 16 cap dros Gymru, ei fod wedi gwella ac yn dal i ystyried dychwelyd i chwarae, yn dibynnu ar gyngor meddygol.
Fe wnaeth Lockyer, 29 oed, ddioddef 'ataliad ar y galon' yn y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr rhwng Bournemouth a Luton, ar 16 Rhagfyr.
Fe wnaeth chwaraewyr y ddau dîm adael y cae hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth i Lockyer dderbyn triniaeth feddygol.
Cafodd y gêm ei gohirio ar ôl iddo gael ei gario i ffwrdd o’r cae gyda’r dorf i gyd yn ei gymeradwyo.
Dyna’r eildro i Lockyer orfod derbyn triniaeth ar gae pêl-droed y llynedd.
Llewygodd Lockyer ar y cae wedi wyth munud o chwarae yn rownd derfynol gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth rhwng Luton a Coventry ar 27 Mai.
Roedd wedi dioddef cyflwr or enw 'ffibriliad atrïaidd'.
Dywedodd hefyd ei fod wedi bod yn cwrdd ag arbenigwyr er mwyn penderfynu ar ei ddyfodol.
Dywedodd ei fod yn falch cael y cyfle i ddweud diolch i bawb sydd wedi bod yn gefnogol iddo, yn arbennig y staff meddygol wnaeth achub ei fywyd.
Dywedodd: “Mae’n dda cael dod allan a dweud fy mod yn gwneud yn dda. Rwy’n credu fod pawb yn haeddu hynny a gwybod fy mod yn gwneud yn dda. Mae wedi bod yn anodd dros y misoedd diwethaf ac rwy’n dda.”
Ychwanegodd fod ei gof o’r digwyddiad yn niwlog.
“Roedd yn ddiwrnod cyffredin a dyna’r peth mwyaf pryderus. Roeddwn yn teimlo’n iawn,” meddai.
“Rwy ‘wedi bod yn chwilio am atebion. Roedd popeth yn mynd yn iawn hyd nes i’r hyn ddigwyddodd ddigwydd. Ro’n i’n rhedeg at hanner ffordd a theimlo’n ben ysgafn a chofio meddwl byddwn yn iawn ymhen rhyw eiliad.
"Yn y pendraw fe wnes i ddihuno gyda pharafeddygon a meddygon o’m cwmpas i.
"Digwyddodd nôl ym Mai hefyd ond roedd yn deimlad gwahanol y tro hwn. Y tro diwethaf roedd gen i deimlad fel dod allan o freuddwyd ond y tro yma roedd fel fy mod wedi dihuno o ddim byd.
'Methu siarad na symud'
"Fe wnes i sylweddoli yn syth fod ychydig yn fwy o banig o’m cwmpas ond nid oeddwn yn gallu siarad na symud.
"Rwy’n cofio meddwl gallwn fod yn marw fan hyn. Rwy’n ffodus ei fod wedi digwydd lle ddigwyddodd. Ond gyda phawb yn gwylio roedd yn teimlo fod fy nheulu wedi dioddef yn fwy na fi.
"Mae fy niolch yn enfawr i’r tîm meddygol oherwydd hebdda nhw fyddwn ni ddim yn sefyll yma.
Fe gadarnhaodd nad oedd wedi diystyru dychwelyd i chwarae. Dywedodd: “Dwy’ ddim yn gwybod os ydw i wedi prosesu'r holl beth eto – d’oes gen i ddim emosiwn am y peth ers hynny.
“Mae allan o fy nwylo i a bydd y staff meddygol yn gwneud penderfyniad.'
Llun: X/Sky Sports
Inline Tweet: https://twitter.com/skysportspl/status/1759206303983894668?s=46&t=cxAveKKgxSbhWzuufHDkZg