Newyddion S4C

'Gwenwch - mae’n ddydd Gwener!' 30 mlynedd ers dechrau Uned 5

16/02/2024

'Gwenwch - mae’n ddydd Gwener!' 30 mlynedd ers dechrau Uned 5

Mae hi'n 30 mlynedd union ers darlledu'r bennod gyntaf un o raglen Uned 5 ar S4C yr wythnos hon.

Yn wreiddiol, rhaglen i blant yn arddull y gyfres 'Blue Peter' ar y BBC oedd Uned 5, ond fe ddatblygodd ei hapêl wrth i'r gynulleidfa dyfu, ac erbyn y bennod olaf un yn 2010, roedd wedi hoelio ei lle yng nghalonnau gwylwyr S4C o bob oed.

Un o wynebau mwyaf cyfarwydd y gyfres oedd y gyflwynwraig Mari Lovgreen, a gyflwynodd y gyfres rhwng 2004 a 2009.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mari: “O edrych nôl ar fy nghyfnod yn Uned 5, ellai ddim coelio pa mor lwcus ‘o’n i, i gal hon fel job cynta erioed! 

“Am freuddwyd! Gymaint o atgofion ac uchafbwyntia- fel teithio i Periw, Gwlad Thai ac Awstralia; sgwrsio efo arwyr ar y carped coch o Leonardo DiCaprio i Jim Carrey. Dio dal ddim yn teimlo’n wir rŵan!"

Image
Simon cowell

Roedd y criw hwyliog oedd yn cynhyrchu’r gyfres, a’u perthynas gyda’r cyflwynwyr ifanc yn rhan amlwg o ‘make-up’ y rhaglen, ac yn rhan o frand unigrywa Uned 5. 

“Yn fwy na dim, be dwi’n gofio ydi’r criw oni ddigon lwcus i weithio efo nhw. Dyda chi ddim fod i chwerthin gymaint a hyn yn gwaith. Doedd o ddim yn waith deud y gwir!,” ychwanegodd Mari.

Roedd Uned 5 yn cynnwys golwg ar y cyfryngau a'r ffilmiau diweddaraf, edrych ymlaen at bêl-droed y penwythnos, sgwrs gyda gwestai arbennig, slot ffasiwn, bandiau'n chwarae'n fyw a nifer o eitemau eraill.

Roedd y rhaglen yn cael ei chynhyrchu gan gwmni Antena, ac yn cael ei ffilmio yn Stiwdio Barcud Derwen ar Stad Cibyn yng Nghaernarfon.

Image
Chris moyles

“Yn eising ar y gacen- oedd cael bandiau byw gora’r sîn yn cloi bob rhaglen. Cyfnod nai fyth anghofio, a nai byth gal profiad gwell a gallu ei alw’n waith, ma hynny’n siŵr!! 

“Diolch mawr i Antena am gymryd risg ar hogan gegog sinsir heb ddim profiad o gwbwl! Fyddai’n ddiolchar tra byddai byw.”ychwanegodd Mari.

Rhai o’r cyflwynwyr ar hyd y blynyddoedd

  • Gaynor Davies, Garmon Emyr a Nia Dafydd
Image
Uned 5
  • Heledd Cynwal, Rhodri Owen a Nia Elin

    Image
    Uned 5
  • Catrin Mai, Lowri Morgan, Bedwyr Rees a Carwyn Llyr

    Image
    Uned 5
  • Lisa Gwilym, Gareth Owen a Gethin Jones 
  • Image
    Uned5

     

  • Llinos Lee, Mari Lövgreen a Rhydian Bowen Phillips
  • Image
    Uned5

     

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.