Tata Steel: Ffwrnais newydd yn wynebu hyd at 12 mis o oedi oherwydd problemau trydan

ITV Cymru
TATA PORT TALBOT (PA)

Gallai fod oedi o hyd at 12 mis cyn y bydd ffwrn arc drydan newydd - a fydd yn cymryd lle’r ffwrneisi chwyth traddodiadol ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot - yn weithredol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol y cwmni mai problem gyda'r cyflenwad trydan oedd wedi achosi'r oedi, a’u bod yn gweithio gyda'r National Grid i fynd i'r afael â'r mater.

Mae'r ffwrn newydd, sydd yn werth £1.25 biliwn, yn cael ei osod gyda’r nod o greu ffordd fwy gwyrdd o gynhyrchu dur.

Roedd y cwmni wedi rhagweld yn wreiddiol y byddai'r ffwrn yn weithredol erbyn diwedd 2027.

Mewn galwad gyda staff Tata, dywedodd Koushik Chatterjee, Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Swyddog Cyllid Tata Steel, eu bod yn disgwyl mai oedi o 12 mis fydd, ar ôl amcangyfrif yn wreiddiol y gallai fod hyd at 18 mis.

Ychwanegodd fod y cwmni yn gweithio gyda'r llywodraeth a'r National Grid, a'u bod yn obeithiol y gallent leihau'r oedi ymhellach i "rywle rhwng chwe mis ac wyth mis".

Dywedodd Tata Steel nad yw wedi gwneud cyhoeddiad swyddogol am oedi eto.

"Mae rhaglen y Ffwrnais Arc Trydan yn brosiect diwydiannol mawr ac, fel pob prosiect o'r raddfa hon, mae amserlenni'n parhau i esblygu wrth i waith peirianneg, adeiladu a seilwaith manwl fynd rhagddo,” meddai llefarydd.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y National Grid: "Mae'r gwaith adeiladu ar y gweill ac mae cynnydd da yn cael ei wneud, ac rydym wedi bod yn gweithio'n adeiladol gyda Tata Steel a'r llywodraeth i archwilio opsiynau i gyflymu'r rhaglen."

Dechreuodd y broses o gau ffwrneisi chwyth Port Talbot ym mis Mawrth 2024. Cafodd tua 2,000 o swyddi eu colli wrth symud i'r ffwrnais newydd.

Daw'r newyddion am yr oedi dyddiau wedi tân sylweddol ar y safle, ble cafodd criwiau o 16 o orsafoedd tân lleol eu galw i’w ddiffodd

‘Methu busnesau'

Wrth ymateb i’r oedi, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Mae'r National Grid yn methu busnesau sy'n ceisio cynnal a chynyddu cyflogaeth a chynlluniau ehangu. 

"Dyma enghraifft arall o'r hyn sy'n bod ar ein system drydan breifateiddiedig ym Mhrydain.

"Mae'n gweithredu er budd ei gyfranddalwyr yn unig, nid economi ehangach y DU. Yn gwneud elw syfrdanol y gallem fod yn elwa ohono.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gofyn i Tata Steel UK am sicrwydd bod y prosiect yn mynd rhagddo mor gyflym ac yn ddiogel â phosibl. 

“Maent wedi cadarnhau eu bod yn gweithio gyda'r National Grid ac asiantaethau eraill i ddatblygu'r prosiect yn gyflym ac yn ddiogel, a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r gwaith hwn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi Tata gyda’r trawsnewidiad ym Mhort Talbot ac yn gweithio gyda’r holl rhanddeiliad allweddol i’w gysylltu â’r rhwydwaith trydan cyn gynted â phosibl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.