Caerdydd: Teyrnged i 'ddyn ifanc deallus' fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teulu dyn 18 oed o Gaerdydd fu farw mewn gwrthdrawiad ddydd Sadwrn wedi ei ddisgrifio fel “dyn ifanc deallus oedd â’i holl fywyd o’i flaen”.
Mae’r heddlu bellach wedi cadarnhau mai Dominic Luke Bailey oedd y person fu farw yn y gwrthdrawiad.
Cafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw i ffordd yr A48 ym mhentref Sain Nicolas ar gyrion y brifddinas toc wedi 20.05 nos Sadwrn.
Roedd dau gar, MG Llwyd a Land Rover Defender du, yn rhan o’r gwrthdrawiad.
Bu farw Mr Bailey yn y fan a'r lle.
Mae’r ddau berson oedd yn y Land Rover - menyw 59 oed a dyn 64 oed o Dresimwn, Bro Morgannwg – yn parhau yn yr ysbyty, yn ôl y llu.
Mewn teyrnged, dywedodd teulu Mr Bailey: “Roedd Dominic yn gorffen ei arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf lle bu’n ddisgybl am y saith mlynedd ddiwethaf.
“Roedd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Malaysia ond penderfynodd ddilyn ei freuddwydion o weld y byd a mynd i deithio yn lle.
“Nid oedd unrhyw un tebyg i Dominic. Gallai roi gwên ar wyneb unrhyw un. Roedd yn ddyn ifanc mor ddeallus a oedd â’i fywyd cyfan o’i flaen.
“Mae teulu Dominic wedi’u dinistrio ac yn dweud na fydd bywyd byth yr un fath eto hebddo.”
Mae Heddlu'r De yn apelio ar unrhyw dystion a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn teithio ar y ffordd cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â nhw.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu luniau dashcam o'r digwyddiad, gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu'r rhif 2600177729.
