Newyddion S4C

Ail seren Michelin i gogydd o Gymru

13/02/2024
Tomos Parry

Mae cogydd o Gymru wedi ennill ei ail seren Michelin yn y rhifyn diweddaraf o’r canllaw enwog.

Enillodd Tomos Parry o Ynys Môn ei seren gyntaf nôl yn 2018 ar gyfer ei fwyty Brat yn Shoreditch, Llundain, ac mae nawr wedi llwyddo i ennill ail seren gyda'i fwyty Mountain yn Soho - a hynny ar ôl bod ar agor am chwe mis yn unig.

Dywedodd y Cymro, sydd bellach yn berchen ar dri bwyty yn Llundain ac yn cyflogi dros 100 o bobl, wrth Newyddion S4C ei fod wedi synnu gan y newyddion.

"Oni’n reit surprised. Ar yr un llaw, doeddwn i ddim yn rhy surprised oherwydd safon uchel ein bwyd, ond ar y llaw arall roeddwn i’n surprised pa mor sydyn 'naeth o ddigwydd," meddai.

"Mae’n newyddion da iawn i ni a dwi’n gobeithio fydd y tîm yn ei weld fel ysbrydoliaeth ar gyfer be' maen nhw’n dymuno'i wneud gyda'u gyrfaoedd eu hunain.’

Er ei fod nawr yn byw ac yn gweithio yn Llundain, mae Tomos yn parhau i ddefnyddio cynnyrch Cymreig yn ei fwytai, gan gynnwys cimwch a gwymon o Sir Benfro. Mae ei fwydlenni hefyd yn cynnwys manylion yn yr iaith Gymraeg.

Agorodd Mountain ym mis Gorffennaf 2023, bum mlynedd ar ôl Brat sydd wedi llwyddo i ddal ei afael ar ei seren Michelin. 

Ond yn ystod y pandemig, roedd yn rhaid i Tomos feddwl yn greadigol ac agorodd fwyty awyr agored o'r enw Brat at Climpson's Arch yn Hackney, Llundain.

"Ni oedd un o’r rhai cyntaf i agor bwyty awyr agored ac mae o wedi bod yn llwyddiannus iawn.

"Roedd y pandemig yn uffernol mewn llawer o ffyrdd, ond roedd yn gyfle i mi agor rhywbeth newydd," meddai.

Dywedodd ei fod yn bwriadu agor bwyty dros dro tebyg yn Sir Benfro ar ddiwedd yr haf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.