Person 'ar goll' wedi tân mewn tŷ yng ngorllewin Sir Gâr
Mae person ar goll yn dilyn tân mewn tŷ rhwng pentrefi Meidrim a Threlech yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin yr wythnos diwethaf.
Fe gafodd saith o griwiau o Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, a thîm chwilio ac achub eu hanfon i ddiffodd y tân toc cyn hanner nos, ddydd Iau, 8 Chwefror.
Daerth criwiau yno o Gaerfyrddin, Rhydaman, Hendy-gwyn, y Tymbl, Pontiets, Hwlffordd ac Aberteifi.
Mi gafodd y tân ei ddiffodd ond mae “difrod sylweddol” i’r tŷ deulawr ac mae’n parhau i fod yn rhy beryglus i fynd i mewn i’r safle, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae ffordd brysur y B4299 yn ymyl yn tŷ, ac mae'r heol yn dal ar gau ddydd Mawrth, wrth i ymchwiliadau barhau.
Dyma un o'r prif ffyrdd rhwng trefi Castell Newydd Emlyn a Sanclêr yng ngorllewin Sir Gâr.
Mae’r gwasanaeth tân yn cydweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys er mwyn darganfod achos y tân.
Un person ar goll
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Mae’r tân wedi’i ddiffodd, fodd bynnag, mae difrod helaeth i’r eiddo ac nid yw’n ddiogel mynd i mewn iddo.
"Rydym yn methu cyfrif am un unigolyn wedi'r digwyddiad.
"Bydd swyddogion yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru er mwyn sefydlu achos y tân.
"Mae’r ffordd ar gau wrth i'r ymchwiliadau barhau."