'Fel rhywbeth allan o ffilm': Cwpwl o Fôn yn 'ddiolchgar' na gafodd unrhyw un eu hanafu wedi i awyren blymio i'w gardd gefn
Mae cwpwl o Fôn wedi dweud eu bod yn falch iawn na chafodd unrhyw un eu hanafu pan ddisgynnodd awyren yn eu gardd gefn ddydd Sadwrn.
Fe ddisgynnodd yr awyren i ardd Jeanette a Geoff Charley ar stad Cae Bach Aur ym Modffordd ger Llangefni, ac fe gafodd y peilot ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau.
Roedd y cwpwl sydd wedi byw yn yr eiddo ers bron i 20 mlynedd, yn paratoi am “noson dawel" yn eu cartref, pan gawsant eu “synnu” gan sŵn “bang enfawr.”
“Cyn o’n i'n gallu sefyll i sbïo ar be’ oedd y sŵn, roedd y ffôn yn canu,” medd Jeanette.
Roedd eu mab wedi cysylltu ar unwaith er mwyn sicrhau fod ei rieni’n ddiogel wedi iddo glywed bod awyren wedi plymio’n agos i’r tŷ, meddai’r fam.
Fe aeth Ms Charley allan er mwyn siarad gyda’i chymdogion pan gafodd wybod gan ddynes ar y ffordd bod yr awyren wedi glanio yn ei gardd cefn.
Pan aeth hi a’i gwr i’r ardd gefn, dywedodd eu bod wedi “synnu'n llwyr” gan yr olygfa – “roedd e’n swreal, fel rhywbeth allan o ffilm,” meddai.
“Dyna oedd o yn ei holl ogoniant, wedi manglo ac yn sownd yn y coed yn yr ardd gefn.”
Mae’r pâr bellach wedi dweud eu bod yn teimlo’n lwcus iawn bod yr awyren wedi disgyn yn yr ardd, ac nid agosach i’w eiddo.
Nad yw anafiadau’r peilot yn peryglu ei fywyd ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau nad oedd unrhyw un arall ar yr awyren.
Wrth i ymdrechion i lanhau’r difrod barhau, dywedodd y gŵr a’r wraig ei fod yn “syndod” nad oedd y digwyddiad yn un “fwy sinistr.”
Lluniau: ITV Cymru