Newyddion S4C

Pryderon dros ddyfodol cynllun swyddogion heddlu yn mynd i ysgolion i drafod materion diogelwch a lles

12/02/2024

Pryderon dros ddyfodol cynllun swyddogion heddlu yn mynd i ysgolion i drafod materion diogelwch a lles

Trwy Gymru, mae 68 o swyddogion heddlu yn cael eu cyflogi i ymweld ag ysgolion i drafod materion diogelwch a lles. Ond mae dyfodol y cynllun yn ansicr ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud na all hi gyfrannu ar ôl Ebrill.

"Mae'n bwysig iawn i ni. Mae'n bwysig i'r plant gael llais gwahanol yn rhoi negeseuon iddyn nhw yn hytrach na staff o hyd. Mae o hefyd yn adeiladu perthynas efo'r heddlu yn enwedig mewn ardaloedd fel hon lle mae 'na farn eitha negyddol yn gallu bod ar adegau o'r heddlu.

"Mae e'n rhywbeth positif sydd yn adeiladu perthynas. rhwng yr heddlu a'r gymuned a'r disgyblion hefyd. Un o'r gwersi oedd yn bwysig dros ben i ni oedd cyffuriau. Ymddygiad gwrthgymdeithasol a hefyd e-ddiogelwch."

Yma yn Ysgol Glan Morfa mae'r plant yn teimlo bod nhw yn elwa o ymweliadau PC Davies.

"Mae PC Davies wedi dysgu ni sut i wneud pethau mae neb arall yn gallu dysgu ni. Gall plant eraill cael yr un experience gyda PC Davies. Os oedd rhywbeth yn digwydd adref, bydden ni'n gallu galw'r heddlu. Neu os ni'n gweld un ar y stryd, siarad gyda nhw."

Ydych chi'n gwrando yn well ar yr heddlu nag ar athrawon?

"Ie. Maen nhw yn dysgu ni ddim i fwlio ac i fod yn saff arlein.

Mae'r cynllun yn costio bron i £2 miliwn y flwyddyn ac yn ôl Llywodraeth Cymru, rhaid i bethau eraill gael blaenoriaeth.

Ond mae comisiynwyr yr heddlu yn anfodlon na chafon nhw rybudd fod hyn yn dod.

"'Dan ni ddim wedi gwybod cyn y penderfyniad bod 'na bosibilrwydd o hyn yn datblygu. 'Dan ni ddim wedi cael amser i feddwl trwadd beth fyddwn yn neud nac i siarad gydag athrawon a phrifathrawon yn arbennig. 'Dan ni yn rhoi addewid, y prif gwnstabl a finnau yn Ne Cymru fyddwn ni yn gweithio trwy pethau i weld beth fedrwn ni neud i gysylltu gydag ysgolion o fis Medi ymlaen. 

"Wrth ymateb i feirniadaeth, mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau eraill yn wynebu'r pwysau ariannol gwaethaf ers tro ac o ganlyniad fod yn rhaid i'r llywodraeth flaenoriaethu gan ganolbwyntio ar wasanaethau rheng flaen ac achub bywydau.

Mae'r Llywodraeth yn mynnu ei bod yn gweithio'n agos gyda'r heddlu ar effaith posibl y newid. Ond mae'r comisiynwyr yn dadlau fod hwn yn fuddsoddiad pwysig fydd yn talu ffordd ymhen blynyddoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.