Newyddion S4C

Argymell cynnydd o 16% yn nhreth y cyngor yn Sir Benfro

12/02/2024

Argymell cynnydd o 16% yn nhreth y cyngor yn Sir Benfro

Gallai treth y cyngor gynyddu mwya na 16% yn Sir Benfro, a fyddai'n golygu y byddai biliau bobl y sir ar gyfartaledd £220 yn fwy.  

Cafodd yr argymhelliad ei gefnogi gan rai o gynghorwyr y sir ddydd Llun. 

Cafodd aelodau Cabinet Cyngor Sir Penfro gais i argymell un o dri opsiwn, sef cynnydd o 16.31%, 18.94%, neu 20.98 %.

Byddai hynny'n gyfwerth â chynnydd o £219.02, £254.34, neu £281.73 yn flynyddol ar gyfartaledd, i drigolion sy'n byw mewn cartref ym Mand D.  

Yr amcangyfrif ydy fod bwlch o £31.9m yng nghyllideb y sir. 

Ar hyn o bryd, Sir Benfro sydd â'r gyfradd isaf ar gyfer Band D yng Nghymru, sef  £1,342.86 y flwyddyn ar gyfer  2023-2024, o gymharu â £1,553.60 yng Ngheredigion a £1,490.97 yn Sir Gâr.

Bydd y premiwm ar gyfer ail gartrefi yn y flwyddyn ariannol nesaf yn 200%. 

Wrth benderfynu ar y cynnydd lleiaf yn nhreth y cyngor, sef 16.31%, bydd angen arbedion o £12.8m yn y gyllideb, gan ddefnyddio £0.6m o'r gronfa wrth gefn. 

Y cyngor llawn fydd yn penderfynu'n derfynol ar yr union ganran y dylid cynyddu treth y cyngor. Bydd hynny'n digwydd wrth lunio'r gyllideb flynyddol ar 7 Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.