Ystyried codi treth cyngor hyd at 21% yn Sir Benfro
Bydd cynghorwyr Sir Benfro yn ystyried codi treth cyngor hyd at 21% mewn cyfarfod ddydd Llun.
Gyda bwlch ariannu o £31.9 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, mae Cyngor Sir Penfro eisoes wedi awgrymu y bydd codi trethi yn anorfod, gyda swyddogion yn awgrymu bydd y gyfradd yn codi rhwng 16% a 21%.
Yn ôl rhagolygon, bydd y bwlch ariannu yn parhau i dyfu dros y blynyddoedd nesaf yn ogystal, gyda bwlch o £82.2 miliwn wedi ei amcangyfrif rhwng 2024-25 a 2027-28.
Mewn adroddiad i gabinet y cyngor, cyn y cyfarfod ar ddydd Llun 12 Chwefror, dywedodd swyddogion: “Bydd angen i’r bwlch ariannu yr ydym yn ei ragweld cael ei lenwi drwy gyfuniad o godiad mewn treth cyngor, defnydd o bremiymau treth cyngor ac arbedion i’r gyllideb.
“Byddai unrhyw ddefnydd o arian wrth gefn yn cael ei hystyried dim ond pan mae cynllun eglur mewn lle i leihau cyllidebau sylfaenol i’r lefelau ar gyfer 2025-26 ymlaen i’r lefelau angenrheidiol, ac i atgyfnerthu’r cronfeydd wrth gefn yn ystod cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, wrth gadw at y strategaeth ar gyfer dal a defnyddio arian wrth gefn.”
Opsiynau
Yn ôl yr adroddiad, bydd angen i gynghorwyr ystyried tri opsiwn er mwyn arbed £31.9 miliwn; codi trethi cyngor yn unig i 42%, torri gwariant, neu gytuno ar gyfuniad o’r ddau.
Pe byddai’r dreth yn codi 21%, fe fyddai’r bil cyfartalog ar gyfer eiddo yn y band D yn codi £281.73 y flwyddyn.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi ystyried codiadau o 12.5% a 15%, ond roedd y rhain yn golygu y byddai angen ”arbedion sylweddol iawn” yn y gyllideb gan olygu y byddai nad oed modd gweithredu rhai gwasanaethau “i’r safonau statudol angenrheidiol”.
Yn ôl yr adroddiad, nid oedd unrhyw godiad o dan 16.31% yn cael eu hystyried fel opsiwn cynaliadwy, gan y byddai’n cael “effaith sylweddol iawn”
Yn ôl setliad ariannol Llywodraeth Leol gan Lywodraeth Cymru, mae’r cyngor wedi derbyn codiad o 2.5% yn unig, a hynny gyda chostau gwasanaethau wedi codi 14.4%.
Yn ôl arweinydd y cyngor, David Simpson, mae hyn yn adlewyrchu â lleihad hir dymor mewn cefnogaeth i awdurdodau lleol gan lywodraethau San Steffan a Bae Caerdydd.
“Yn ystod y degawd diwethaf, nid yw lefelau cyllid o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru ac ymlaen i gynghorau wedi cadw i fyny â’r pwysau cynyddol.
“Oherwydd hyn, rydym wedi gorfod gwneud arbedion cyllideb sylweddol o £96.7 miliwn dros yr amser hwn.
“Rydym bob amser wedi ymdrechu i leihau’r effaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.”
Bydd y penderfyniad terfynol ar lefel y dreth gyngor – ac unrhyw arbedion – yn cael ei wneud gan y cyngor llawn pan fydd yn gosod y gyllideb flynyddol ar 7 Mawrth.