Newyddion S4C

Byddin Israel yn achub dau o wystlon o'r Ariannin yn Gaza

12/02/2024
Gwystlon sydd wedi'u hachub

Mae byddin Israel wedi dweud eu bod wedi achub dau o wystlon, sy’n wreiddiol o’r Ariannin, yn ystod ymosodiad yn ninas Rafah.

Fe ddaw yn dilyn adroddiadau bod Israel wedi ymosod yn drwm ar y ddinas, sydd ar y ffin ddeheuol a’r Aifft, a hynny wedi i Brif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, gyhoeddi cynlluniau ei fyddin i ddechrau ymosodiad tir yno ddydd Gwener ddiwethaf.

Mae byddin Israel bellach wedi dweud eu bod wedi achub dau o ddynion o’r Israel gan Hamas, a’u bod mewn “cyflwr meddygol dda.”

Fe gafodd Fernando Simon Marman, 60 oed, a Louis Har, 70 oed, eu hachub gan fyddin Israel dros nos.

Mae’r ddau yn wreiddiol o’r Ariannin, ond y gred yw eu bod yn ddinasyddion Israel. 

Mae arlywydd yr Ariannin, Javier Milei, wedi diolch i fyddin Israel am achub dinasyddion ei wlad yn "llwyddiannus," gan ddweud eu bod wedi dangos "cryfder a dewrder."

Mae Prif Weinidog Israel hefyd cymeradwyo ei "filwyr dewr," gan ychwanegu fod angen parhau i roi "pwysau milwrol" ar Hamas.

"Ni fyddan ni'n methu unrhyw gyfle i ddod a nhw adre'," meddai mewn datganiad ar y cyfrwng cymdeithasol X.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Israel Defence Forces (IDF) eu bod wedi cychwyn ymosodiad “ar y cyd” gyda’r heddlu a lluoedd amddiffyn, gan achub y ddau ddyn. 

Fe gafodd y dynion eu cludo i ganolfan meddygol Sheba yng nghanol dinas Israel am brofion meddygol.

“Cafodd profion eu cynnal gan arbenigwyr yr ER ac mae’r dynion mewn cyflwr sefydlog,” meddai cyfarwyddwr y canolfan, Armon Aek.

Dywedodd Gweinidog Amddiffyn Israel, Yoav Gallant, ei fod yn benderfynol i’w fyddin parhau i “gyflawni eu hymrwymiad i achub y rheiny sydd wedi’u cipio, mewn unrhyw ffordd.”

Ychwanegodd yr oedd ymdrech achub byddin Israel wedi “creu argraff.”

Roedd Rafah yn un o’r unig ranbarthau nad oedd wedi’u dargedu eto gan Israel mewn ymosodiad tir. Mae dros hanner poblogaeth Gaza o 2.3 miliwn o bobl wedi cymryd lloches yn y ddinas.

Yn ôl Israel, dyma’r cadarnle olaf sy’n weddill i ymladdwyr Hamas yn Gaza, ar ôl mwy na phedwar mis o wrthdaro, wedi ymosodiad gwaedlyd y grŵp milwriaethus ar 7 Hydref ar Israel.

Ond mae lluoedd milwrol Israel bellach wedi dechrau’r ymosodiad yn ninas Rafah ac mae nifer o bobl wedi’u hanafu, medd cymdeithas Palesteina Red Crescent.

Yn ol y gwasanaeth iechyd yn Gaza, sy'n cael ei gynnal gan Hamas, mae o leiaf 67 o Balesteiniaid wedi cael eu lladd wedi'r ymosodiad dros nos. 

Mae plant a menwyod ymysg y rheiny sydd wedi cael eu lladd, medd Dr Marwan al-Hams, pennaeth ysbyty Abu Youssef al Najjar.

Mae Israel wedi cadarnhau eu bod wedi cychwyn ymosod yn ne Gaza, ond heb roi unrhyw fanylion pellach. 

Llun: Bring Them Home Now/X

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.