Newyddion S4C

Y pentref yn Ffrainc sydd am wahardd ffonau symudol mewn mannau cyhoeddus

10/02/2024
seine port.png

Mae un pentref yn Ffrainc wedi pleidleisio o blaid gwahardd defnyddio ffonau symudol mewn mannau cyhoeddus.

Fe fydd yn rhaid i'r 1,800 o drigolion pentref Seine-Port yn ne Paris gyfyngu ar eu defnydd o'u ffonau symudol yn gyhoeddus. 

Wedi pleidlais ar 3 Chwefror, pleidleisiodd 54% o blaid y newid, sef y tro cyntaf i'r cyfyngiad gael ei gyflwyno yn Ffrainc. 

277 allan o'r 1,530 o etholwyr cymwys a ddewisiodd i ddefnyddio eu pleidlais, gyda 146 yn pleidleisio o blaid, a 126 yn pleidleisio yn erbyn.

Y bwriad ydy gwahardd defnyddio ffonau symudol mewn siopau, o flaen ysgolion, mewn parciau ac ar y strydoedd yn y pentref.

Mae'r siarter yn gwahodd rhieni hefyd i wahardd eu plant rhag mynd ar sgrîn yn y bore, wrth y bwrdd, cyn mynd i gysgu ac yn yr ystafell wely.  

Ond mae'r awdurdod yn dweud mai dim ond cymhelliant ydy'r datblygiad, ac na fydd unrhwy gosb ar gyfer troseddwyr posib.

Mae'r awdurdodau iechyd yn cyfeirio yn aml at effaith negyddol o dreulio gormod o amser ar y sgrîn, yn enwedig ymysg pobl ifanc. 

Llun: France 3

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.