Disgyblion ag anghenion arbennig yn profi taith dramor 'fythgofiadwy'
Mae disgyblion sydd ag anghenion arbennig wedi disgrifio taith dramor gyda’u hysgol yn Hwlffordd fel profiad “bythgofiadwy.”
Fe aeth naw o ddisgyblion Ysgol Arbennig Portfield ar daith i Sweden a Gwlad Belg fel rhan o brosiect rhwng disgyblion blynyddoedd 8-11 i ymweld ag ysgolion arbennig eraill ledled y byd.
Mae’r prosiect mewn partneriaeth ag ysgolion eraill yn Uppsala, Sweden, Fflandrys a Gwlad Belg, ac mae'n galluogi disgyblion tramor i ymweld â Chymru yn ystod yr haf er mwyn iddyn nhw greu ffrindiau a chael profiadau academaidd newydd hefyd.
Mae Ellie yn ddisgybl o Portfield, sy’n cefnogi plant gydag anghenion arbennig fel awtistiaeth, ac fe wnaeth ymweld â Gwlad Belg ym mis Mai.
“Dw i wedi dysgu eich bod chi'n gallu gwneud pethau gwahanol.
“Fe ddysgais i sut mae'r plant yn wahanol i ni gan eu bod nhw'n chwarae gemau gwahanol ar yr iard chwarae.
"Fe fyddwn i'n dweud wrth bobl am fynd i Bruges i weld y marchnadoedd Nadolig. Y peth oedd yn arbennig oedd pa mor fawr oedden nhw, ac roedd llwyth o stondinau gwahanol.
“Mi ges i amser bendigedig, go iawn," meddai.
'Arbennig'
Mae prosiect Taith yn gynllun gan Lywodraeth Cymru sydd yn darparu cyllid er mwyn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr, pobl ifanc a staff ym mhob math o leoliadau addysg, gan eu galluogi i deithio dramor i ddysgu hefyd.
Nid yw llawer o ddisgyblion Portfield wedi teithio dramor, ac fe aeth y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, i Ysgol Arbennig Portfield er mwyn cwrdd â’r rheiny sydd wedi cymryd rhan yn y daith “arbennig.”
"Mae wedi bod yn wych siarad â disgyblion a staff yn ysgol Portfield am sut mae eu taith wedi helpu i fagu hyder, ehangu gorwelion a datblygu dyheadau.
"Fe fyddwn i'n annog ysgolion a phob lleoliad addysgol ledled Cymru i wneud cais am gyllid Taith. Mae'r ffenestr ymgeisio ddiweddaraf ar agor nawr ac yn cau ar 20 Mawrth," meddai.
Llun: Ysgol Arbennig Portfield