Newyddion S4C

Y Cymro creadigol a'i naw miliwn o ddilynwyr 'Anime'

ITV Cymru 11/02/2024
Connor Coloughn

Mae dyn ifanc sy’n creu cynnwys 'Anime', sydd wedi denu dros naw miliwn o ddilynwyr ar draws y byd yn dweud bod poblogrwydd y genre wedi cynyddu yng Nghymru. 

Mae Anime yn ffilmiau sydd wedi eu hanimeiddio ac yn deillio o Japan, ac mae’r genre’n cynyddu yn flynyddol mewn poblogrwydd ledled y byd. 

Mae disgwyl y bydd y diwydiant werth tua $69.8 biliwn erbyn 2032. 

Un sydd wedi elwa o'r twf ym mhoblogrwydd Anime yw Connor Colquhoun  o’r Wyddgrug, sy’n defnyddio'r enw ‘CdawgVA’ ar YouTube. 

Erbyn hyn, mae Connor yn enw mawr o fewn y diwydiant Anime ar draws y byd. 

Yn y dechreuad...

Fe ddechreuodd Connor ei sianel YouTube yn 2014.

Ac ar ôl nosweithiau hir yn creu fideos am Anime rhwng ei ddarlithoedd, fe dyfodd y nifer sy'n ei ddilyn yn sylweddol. 

Image
anime

Fe ddecreuodd Connor ymddiddori mewn Anime yn ystod ei amser yn yr ysgol uwchradd, cyn penderfynu cychwyn ei gyfrif ei hun, a dechrau creu cynnwys gan esgus bod yn gymeriadau Anime.

“Pan oedddwn i’n byw yn Nghymru, doedd neb yn siarad am Anime. A thrwy’r amser oeddwn i fel ‘ah, dwi eisiau siarad am Anime,’ ond doeddwn i ddim yn gallu oherwydd doedd neb yng Nghymru yn gwylio Anime.” 

Byw yn Tokyo

Erbyn hyn, mae Connor yn byw yn Tokyo, yn gweithio fel dylanwadwr Anime yn llawn amser, ac wedi denu cynulledifa o dros naw miliwn ar draws YouTube, Instagram, Twitch a X. 

“Fe wnes i ddechrau creu fideos ac yn fuan roedd pobl yn gwylio fy fideos.

“Ers hynny, dwi wedi dal ati i greu fideos, a nawr mae gen i lot o danysgrifwyr.” 

Yn ôl Connor, mae e’n derbyn dros 50 miliwn o sesiynau gwylio ar draws ei holl sianeli.

“Pan oeddwn i’n yr ysgol, doeddwn i byth yn gallu dychmygu gall y cymuned [yng Nghymru], pan rydyn ni’n siarad am Japan ac Anime, fod mor fawr.

Fe wnaeth o ddychwelyd i Gymru ar daith gyda YouTubers enwog eraill Anime, i siarad gyda’i gefnogwyr yng Nghaerdydd. 

Dywedodd Connor ei bod hi’n “deimlad braf' dod yn ôl i Gymru drwy’r amser.

“Dwi’n meddwl mae’r vibe yng Nghymru yn cosy a neis, so, dwi’n hapus i ddod yn ôl.

“Mae’n cŵl i fod yn ôl yng Nghaerdydd a gweld pawb sydd yn hoffi fy fideos a’r cynnwys dwi’n ei greu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.