Newyddion S4C

Teulu actor yn ystyried camau cyfreithiol wedi iddo farw ar ôl llawdriniaeth colli pwysau

09/02/2024
Phil Morris

Mae teulu actor fu farw wedi llawdriniaeth a gafodd er mwyn iddo allu colli pwysau wedi dweud eu bod nhw’n ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn ysbyty preifat yn Lloegr.

Bu farw Phillip Morris, oedd yn 48 oed o Gasnewydd, ar ôl iddo gael ataliad y galon yn ysbyty preifat Spire St Anthony yn Surrey.

Fe gafodd Mr Phillips lawdriniaeth ‘sleeve gastrectomy’ er mwyn cael gwared a rhan o’i stumog ym mis Rhagfyr, 2021.

Bu farw bedwar diwrnod ar ôl y llawdriniaeth, a hynny ar ôl iddo ddatblygu poen yn ei abdomen dau ddiwrnod yng nghynt.

Wrth siarad yng nghwest i’w farwolaeth, dywedodd yr uwch grwner Sarah Ormond-Walshe ei fod “yn debyg” y byddai Mr Morris wedi goroesi pe bai'r monitor carbon deuocsid yn “gweithio'n gywir.”

Ond ychwanegodd y crwner ei fod yn “anodd dweud gyda sicrwydd beth oedd yn achosi’r boen yn ei abdomen.”

Mae teulu Mr Morris bellach wedi dweud eu bod yn ystyried camau cyfreithiol yn erbyn yr ysbyty.

Mewn datganiad dywedodd ei wraig, Dana: “Mae’n amlwg o gasgliad y crwner y byddai wedi bod yn bosib osgoi marwolaeth Phil pe bai'r camau priodol wedi'u cymryd i sicrhau ei ofal.”

'Methu'

Clywodd y cwest hefyd fod profion gwaed Mr Morris yn dangos ei fod yn dioddef “methiant arennol difrifol” diwrnod wedi’r llawdriniaeth ac roedd ei gyflwr yn parhau i waethygu.

Dywedodd y crwner fod cyfle i achub bywyd Mr Morris “wedi’i fethu” pan geisiodd meddygon i sicrhau llif ocsigen iddo oherwydd diffygion ym mheiriant CO2.

Gofynnodd cyfreithwyr ar ran gwraig Mr Morris i’r crwner ystyried esgeulustod, neu fethiant ar ran yr ysbyty, fel rhan o’i chasgliad, ond penderfynodd nad oedd hynny’n “briodol.”

Mewn rheithfarn naratif, dywedodd y crwner fod Mr Morris wedi marw ar ôl "dioddef cymhlethdodau camau brys a gynhaliwyd i drin cymhlethdodau llawdriniaeth bariatrig."

Mewn datganiad, dywedodd Spire Healthcare eu bod yn derbyn canfyddiadau'r crwner ac yn ymddiheuro i deulu Mr Morris am eu colled.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.