Newyddion S4C

Y rhyfel geiriau rhwng Piers Morgan â'r Tywysog Harry

Piers Harry

Mae’r anghydfod rhwng y Tywysog Harry a chyn-olygydd y Daily Mirror wedi mynd o ddrwg i waeth ar ôl i'r Dug ennill iawndal “sylweddol” yn ei hawliad hacio ffôn yn erbyn cyhoeddwr y papur newydd.

Fe wnaeth y Tywysog Harry sylwadau am rôl Piers Morgan yn y sgandal hacio ffonau ar ôl iddo ddod i gytundeb gyda Mirror Group Newspapers (MGN), a fydd yn talu iawndal i Harry, yn ogystal â thalu ei holl gostau cyfreithiol.

Mewn datganiad a ddarllenwyd y tu allan i’r Uchel Lys gan ei fargyfreithiwr David Sherborne, dywedodd y Tywysog, fod cyn-olygydd y Mirror “yn gwybod yn berffaith iawn” bod ffonau’n cael eu hacio.

Ychwanegodd: “Yn wyneb hyn, rydyn ni’n galw eto ar yr awdurdodau i gyflwyno rheolaeth y gyfraith ac i brofi nad oes neb uwch law hynny.

"Mae hynny'n cynnwys Mr Morgan, a oedd fel golygydd yn gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, fel y nodwyd gan y barnwr."

Ond fe darodd y newyddiadurwr a’r cyflwynydd teledu yn ôl mewn neges ar X, gan ddweud: “Rwy’n cytuno’n llwyr â’r Tywysog Harry bod ymyrraeth ddidostur i fywydau preifat y teulu brenhinol er budd ariannol yn gwbl waradwyddus… a dwi'n gobeithio y bydd ef yn rhoi’r gorau i wneud hynny."

Mae Mr Morgan wedi bod yn feirniadol iawn o'r Tywysog Harry, a'i wraig Meghan Markle, ers iddynt droi eu cefnau ar eu gwaith fel aelodau blaenllaw o'r Teulu Brenhinol a symud i fyw i America. Ond mae'r Tywysog wedi pwysleisio mae diogelwch ei deulu yw ei flaenoriaeth, ac roedd gadael eu cyfrifoldebau Brenhinol yn angenrheidiol er mwyn sicrhau hynny.

Mae Mr Morgan yn mynnu nad oedd ganddo “ddim syniad” am bobl yn casglu gwybodaeth drwy ddulliau anghyfreithlon yn ystod ei gyfnod fel golygydd y Daily Mirror.

Nid dyma'r tro cyntaf i bethau boethi rhwng y ddau, gan fod Mr Morgan eisoes wedi disgrifio'r Tywysog fel person “ddidostur, barus a rhagrithiol”, sy'n benderfynol o “ddinistrio Brenhiniaeth Prydain”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.