'Mae'r pwysau ar Loegr': Cyn chwaraewr Cymru'n gobeithio am sioc yn Twickenham
Wrth edrych ymlaen at ail gêm Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn, mae posibilrwydd y gallai Cymru “roi sioc” i’r cefnogwyr sy’n disgwyl i'r crysau cochion golli, yn ôl un cyn-chwaraewr.
Bydd Cymru’n chwarae oddi cartref yn erbyn Lloegr brynhawn Sadwrn, gyda’r gic gyntaf am 16.45 yn Stadiwm Twickenham.
Yn ôl Nicky Robinson, fe allai’r pwysau sydd ar ysgwyddau ifanc tîm Lloegr arwain at fuddugoliaeth annisgwyl i Gymru.
“Mae pawb yn gwybod mae Lloegr yw’r ffefrynnau i ennill y gêm ‘ma,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
“Ond mae lot o chwaraewyr ifanc gyda Lloegr hefyd.
“Y pwysau sydd arnyn nhw, a sut mae'r chwaraewyr ‘na mynd i ddelio gyda’r pwysau ‘na?
“Pan chi’n mynd i ffwrdd a’r tîm arall yw’r ffefrynnau, weithiau mae’r pwysau off ac mae’r holl bwysau ar Lloegr oherwydd y disgwyl yw bod Lloegr yn mynd i ennill y gêm yn weddol hawdd,” meddai.
Colli
Fe gollodd Cymru o 26-27 yn eu gêm agoriadol yn erbyn yr Alban nos Sadwrn ddiwethaf, a hynny am y tro cyntaf mewn dros 20 mlynedd mewn gêm gartref yng Nghaerdydd yn erbyn yr Albanwyr.
“Ond ‘odd na bwysau ar Cymru” yr adeg hynny, meddai Robinson, “ac weithiau mae ‘na mwy o bwysau wrth feddwl ‘dyn ni ddim moyn colli’r gêm’.”
Mae’r cyn-chwaraewr yn awyddus i dîm Cymru ddechrau’r gêm yn erbyn Lloegr gyda’r un hyder ag y gwnaethon nhw ei ddangos yn erbyn yr Alban yn ystod ail hanner y gêm yr wythnos ddiwethaf.
“Mae rhaid iddyn nhw ddysgu o’r pethau negatif ond wrth fynd ymlaen, yn enwedig gêm bant o gartref yn Twickenham, mae rhaid mynd fanna gyda mor gymaint o hyder ac sy’n bosib.
“Ac ‘odd ‘na nifer o agweddau o’r ail hanner yn mynd i roi’r hyder i’r bois ifanc yna, a'r teimlad o’ nhw’n cael yn ystod y gêm.
“Gobeithio bod nhw’n cofio hwnna ac yn defnyddio hwnna wrth edrych ymlaen at y penwythnos ‘ma."
‘Hyder’
Yn 21 oed, Dafydd Jenkins yw’r ail gapten ieuengaf erioed i arwain Cymru.
Ond bydd George North yn dychwelyd i dîm Cymru ddydd Sadwrn, gyda saith o newidiadau i'r tîm a gollodd yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Principality.
Mae Nicky Robinson eisiau i’r crysau cochion gymryd mantais o “system amddiffynnol newydd” Lloegr, gan sicrhau cyfleodd pellach yn ystod y gêm.
“Mae rhaid i safle gosod Cymru fod yn well, ni methu bod mor siomedig gyda lein.
“Ond gyda Will Rowlands 'nôl fi’n gweld hwnna'n helpu a fi wir yn gweld bod ni gallu creu problemau.
“Ond mae rhaid bod ni’n cario mlaen gyda’r hyder o’r ail hanner o’r gêm ddwetha’ i mewn i ddechrau’r gêm.
“Ni methu dechrau yn araf ac wedyn trio dod yn ôl mewn i’r gêm yn yr ail hanner, mae rhaid ni bod yna o’r dechrau.
“Os ni’n gallu gwneud hynny a rhoi pwysau ar dîm weddol ifanc sydd gyda Lloegr fi’n gallu gweld bod ni’n mynd i roi sioc i gwpwl o bobl.”
Llun: Wikipedia