Newyddion S4C

Erlyn dau yrrwr allan o 10,000 o deithwyr am oryrru mewn ardaloedd 20mya

09/02/2024
S4C

Dau yrrwr allan o bron i 10,000 o deithwyr gafodd eu herlyn am oryrru mewn ardaloedd 20mya drwy Gymru yn ystod mis Ionawr.

Cafodd dros 10,000 o deithiau eu monitro yn ystod y cyfnod, gyda 97% o yrrwyr heb eu stopio.

Yn ystod Ionawr fe gafodd 272 o yrwyr allan o 9,775 oedd wedi eu gwirio, eu stopio am fynd dros y terfyn 20mya yn y mis cyntaf. 

Cafodd 270 o’r bobl hyn sesiwn i'w haddysgu, a dim ond dau a gafodd eu herlyn. 

Mewn datganiad yn rhoi crynodeb o ddata'r mis cyntaf o fonitro gyrwyr yn yr ardaloedd 20mya, dywedodd GanBwyll/Gosafe:

"Mae Ymgyrch Ugain yn defnyddio offer monitro cyflymder i adnabod pobl sy’n teithio dros y terfyn cyflymder, cyn i swyddogion heddlu stopio’r cerbyd a rhoi dewis i’r gyrrwr rhwng sesiwn ymgysylltu neu bwyntiau ar ochr y ffordd a dirwy. 

"Er y bydd gyrwyr yn cael cynnig ymgysylltu am ddim fel dewis arall, gallant wrthod, a fydd wedyn yn arwain at erlyniad.

"Os bydd gyrwyr yn dewis yr ymgysylltu, bydd personél y Gwasanaeth Tân ac Achub yn rhoi cyflwyniad am ddim sy’n para tua 10 munud. Ei nod yw hysbysu pobl am y newid yn y terfyn cyflymder, y rhesymau y tu ôl i'r newid, a sut y gallant nodi'r ffyrdd y mae'n berthnasol iddynt."

Cafodd Ymgyrch Ugain gan Lywodraeth Cymru, yr heddlu a'r gwasanaeth tân, ei sefydlu gyda'r bwriad o hysbysu'r cyhoedd am y terfyn cyflymder newydd yng Nghymru.

Cyflwynwyd y terfyn cyflymder o 20mya yng Nghymru ar 17 Medi 2023.

Gohiriodd GanBwyll orfodaeth mewn ardaloedd 20mya dros dro yn dilyn y newid yn y ddeddfwriaeth.

Cafodd gorfodaeth ei ailgyflwyno mewn ardaloedd 20mya ar ddechrau mis Tachwedd 2023. 

Roedd hyn mewn ardaloedd 20mya presennol nad oedd y newid yn y ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt ac roedd yr arwyddion cywir yn eu lle.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.