Newyddion S4C

Hunanbortread gan Van Gogh i gael ei arddangos yng Nghymru am y tro cyntaf

09/02/2024
vanG

Bydd hunanbortread gan un o artistiaid enwocaf y byd yn cael ei arddangos yng Nghymru am y tro cyntaf.

Bydd 'Portread o'r Artist' gan Vincent van Gogh o 1887 yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd fis nesaf.

Peintiodd yr artist 35 o hunanbortreadau cyn ei farwolaeth yn 37 oed, gan ei wneud yn un o wynebau mwyaf adnabyddus yn hanes celf y Gorllewin.

Bydd y gwaith, sydd fel arfer yn cael ei gadw yn y Musee d’Orsay ym Mharis, yn cael ei arddangos tan Ionawr 2025.

Mae'n rhan o gytundeb benthyg gwaith artistiaid gyda Ffrainc, gyda La Parisienne gan Renoir - a elwir hefyd yn Y Fenyw Las - yn teithio o Gymru ar draws y Sianel.

Mae’r cytundeb benthyg yn cau Blwyddyn Cymru yn Ffrainc gan Lywodraeth Cymru, a lansiwyd i greu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad mewn masnach, diwylliant a chwaraeon.

Bydd paentiad Van Gogh yn cael ei arddangos fel rhan o arddangosfa newydd, Art Of The Selfie, sy’n gofyn ai hunanbortread yw’r hunlun gwreiddiol.

Yn ymuno â Van Gogh bydd detholiad o artistiaid o gasgliad cenedlaethol Cymru, gan gynnwys Rembrandt, Brenda Chamberlain, Francis Bacon, Bedwyr Williams ac Anya Paintsil.

Dywedodd Dr Kath Davies, cyfarwyddwr casgliadau ac ymchwil amgueddfa Caerdydd, ei bod wrth ei bodd yn croesawu hunanbortread Van Gogh i Gymru.

“Rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr â’r amgueddfa yn mwynhau gweld y gwaith hwn gan un o beintwyr mwyaf adnabyddus y byd yn cael ei arddangos ochr yn ochr â phaentiadau gan artistiaid o’n casgliad yma yng Nghymru,” meddai.

Disgrifiodd Dawn Bowden, dirprwy weinidog diwylliant a chwaraeon Cymru, yr arddangosiad fel ffordd addas o gloi Blwyddyn Cymru yn Ffrainc.

Dywedodd: “Alla i ddim aros i fod yn un o’r ymwelwyr niferus sy’n ymweld ag Amgueddfa Cymru sy’n cael archwilio hanes yr hunlun yn y casgliad gwych hwn.”

Llun: Scala/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.