Cymru i wynebu Gwlad yr Iâ, Montenegro a Thwrci yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA
Bydd Cymru yn herio Gwlad yr Iâ, Montenegro a Thwrci yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.
Dyma nhw fydd grŵp B4 y gystadleuaeth.
Fe fydd y gemau yn cael eu chwarae rhwng mis Medi a Thachwedd eleni.
Eleni fe fydd Cymru yng nghynghrair B, wedi iddynt orffen ar waelod eu grŵp yng nghynghrair A y llynedd.
Nid oedd Cymru wedi ennill un o'u gemau yn erbyn Gwlad Pwyl, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd.
Y tro diwethaf i Gymru chwarae yng nghynghrair B yn 2022, pan oeddynt wedi ennill eu grŵp.
Nid yw Cymru wedi chwarae yn erbyn Gwlad yr Iâ ers dros ddegawd, Cymru oedd yn fuddugol 3-1 adeg hynny.
Ymgyrch rhagbrofol Ewro 2012 oedd y tro diwethaf i Gymru herio Montenegro, ac enillodd Cymru 2-1 yng Nghaerdydd.
Mae Cymru wedi herio Twrci yn ddiweddar yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Ewro 2024. Colli a gêm gyfartal oedd y canlyniadau.
Llun: Asiantaeth Huw Evans