Newyddion S4C

Carchar i berchennog ci peryglus o Wynedd wedi ymosodiad ym Mhwllheli

08/02/2024
carcharu

Mae dyn o Flaenau Ffestiniog wedi ei garcharu am 15 mis wedi i'w gi frathu dyn arall yn ei wyneb.

Clywodd y llys fod yr heddlu'n amau mai XL Bully yw y ci, ond bod angen profion pellach i gadarnhau hynny.

Roedd Luke Evans, 30, yn anymwybodol pan ymosododd ei gi ar Huw Hickey ym Mhwllheli ym mis Medi y llynedd. Ar y pryd roedd Mr Hickey  yn ceisio helpu Mr Evans, gafodd ei ddisgrifio fel "yfwr trwm."

Wrth ddedfrydu Evans o Llain y Maen, Blaenau Ffestiniog, dywedodd y barnwr, Wyn Lloyd Jones:"Rwy'n gwbl sicr mai dim ond drwy lwc pur y llwyddodd (Mr Hickey) i osgoi anafiadau difrifol yn yr ymosodiad. Gallai wedi bod yn llawer gwaeth."

Ychwanegodd y barnwr "Mae cŵn sydd allan o reolaeth mewn modd peryglus yn broblem ddifrifol yn ein cymdeithas. Mae nhw'n lladd ac yn anafu, weithiau'n ddifrifol. 

"Mae gan bobl fel chi, sy'n berchen ar gi, gyfrifoldeb i gymdeithas." 

 Clywodd y llys fod Evans wedi ei wahardd rhag bod yn berchen ci am bum mlynedd yn 2018. Dyma'r trydydd tro iddo fod gerbron llys ar gyhuddiad o fod â chi peryglus. 

Dywedodd y barnwr wrtho:"Fe ddylech chi fod a chywilydd llwyr ohonoch chi eich hun am yr hyn ddigwyddodd y diwrnod yna." 

Ar ran Luke Evans, dywedodd Rosemary Proctor fod gan ei chleient broblemau "difrifol" gydag alcohol, a'i fod wedi cyrraedd y llys yn feddw yn gynharach yn yr wythnos.

Ond dywedodd fod yna "arwyddion positif" ei fod yn dechrau newid ei fywyd.

Gorchmynodd y barnwr i brofion pellach gael eu cynnal ar y ci cyn penderfynu beth ddylai ddigwydd iddo. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.