Newyddion S4C

Cau un o ffyrdd 'hanfodol' Sir Gâr am bedair wythnos

08/02/2024
Ffordd ar gau

Bydd rhan o ffordd yr A484 ger Caerfyrddin yn cau'n llwyr am bedair wythnos o ddydd Llun nesaf (Chwefror 12) ymlaen.

Cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin y bydd yn rhaid cau'r ffordd wrth Droeon Henallt, rhwng Caerfyrddin a Bronwydd, er mwyn "gwneud gwaith hanfodol i gynnal a chadw'r briffordd."

 Yn ogystal â'r gwaith hanfodol, bydd y Cyngor yn gwneud gwaith atgyweirio i systemau draenio a gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd yn ystod y cyfnod y bydd y ffordd ar gau.

Bydd gyrwyr yn gorfod defnyddio gwyriad, gan ddefnyddio'r A484 i Saron, yr A486 i Bont-tyweli, y B4336 i Lanllwni a'r A485 yn ôl i Gaerfyrddin, ac yna'r A484 i ddychwelyd i fan sydd i'r de o'r man lle mae'r ffordd ar gau.

Oherwydd digwyddiad lleol  sydd wedi ei drefnu ers tro, bydd yr A484 wrth Droeon Henallt yn agor dan reolaeth goleuadau traffig rhwng 12:00 ddydd Iau, 22 Chwefror a 00:00 ar ddydd Llun, 26 Chwefror, ac ar ôl hynny bydd y ffordd yn cael ei chau'n llwyr unwaith eto hyd nes bydd y gwaith  wedi'i gwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: “Mae'r A484 yn ffordd strategol sy'n llwybr trafnidiaeth hanfodol drwy'r Sir. Mae'r Cyngor Sir yn dal i fuddsoddi yn yr A484 i ddiogelu ei dyfodol ac i sicrhau ei bod yn dal i fod ar agor yn y tymor hir i ddefnyddwyr y ffordd.

"Mae hyn yn golygu bod angen gwneud gwaith hanfodol i gynnal a chadw'r briffordd ac mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi bod hyn yn achosi rhywfaint o anghyfleustra ac yn tarfu ar bobl yn y tymor byr. Gofynnwn i bobl fod yn amyneddgar wrth inni gyflawni'r gwaith hanfodol hwn a gaiff ei gwblhau gennym cyn gynted â phosibl.”  

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.