Newyddion S4C

Raye a Central Cee ymysg prif enillwyr gwobrau'r MOBO

08/02/2024
Raye a Central Cee

Y cerddorion Raye a Central Cee oedd rhai o brif enillwyr gwobrau’r MOBO eleni gyda'r seremoni yn cael ei chynnal yn Sheffield nos Fercher. 

Fe enillodd y rapiwr Central Cee wobr am Act Wrywaidd Orau, yn ogystal â Chân y Flwyddyn gyda’i gân ar y cyd gyda’r rapiwr Dave, sef Sprinter. 

Enillodd y gantores, Raye, Act Fenywaidd Orau a hithau wedi dweud ei bod hi’n “siomedig iawn” nad oedd hi’n gallu bod yn bresennol er mwyn casglu’r wobr. 

Mae’r gantores ar daith yn Awstralia ar hyn o bryd, a hynny gyda’r rapiwr Stormzy a wnaeth ennill wobr am 'Fideo Cerddoriaeth Orau'. 

Roedd Little Simz a Bugzy Malone hefyd ymysg y rheiny a gafodd eu hanrhydeddu wedi iddyn nhw ennill yr 'Act Hip Hop Orau' a'r 'Act Grime Orau'. 

Wrth dderbyn ei wobr nos Fercher dywedodd y rapiwr Bugzy Malone ei fod yn falch o allu dathlu llwyddiannau cerddorion lliw croen du.

“Pan ddechreuais i greu cerddoriaeth yn wreiddiol, doedd neb yn y gogledd yn gwneud unrhyw elw. 

“Ond nawr ‘dyn ni allan ‘ma fel pobl lwyddiannus ac annibynnol, felly ‘dyn ni’n dathlu annibyniaeth pobl lliw croen du.”

Image
Bugzy Malone
Bugzy Malone (Llun: Danny Lawson/PA Wire)

Fe gafodd Potter Payper o Lundain ei anrhydeddu gydag 'Albwm y Flwyddyn' gyda’i record Real Back in Style, a gyrhaeddodd rhif dau yn y siartiau pan gafodd ei ryddhau yn ystod yr haf. 

Fe berfformiodd y grŵp pop adnabyddus, y Sugababes, ar lwyfan y MOBO’s nos Fercher gan ennill gwobr am yr effaith maen nhw wedi ei gael ar y sin gerddorol, tra fod Soul II Soul wedi’u hanrhydeddu gyda 'Gwobr Cyfraniad Oes'.

Image
Sugababes
Sugababes (Llun: Danny Lawson/PA Wire)

Dyma restr lawn o’r cerddorion buddugol:

Act Cerddoriaeth Affricanaidd Orau – Asake

Act Jazz Orau – Ezra Collective

Perfformiad Orau mewn gyfres teledu/ffilm - Damson Idreis fel Franklin Saint yn 'Snowfall'

Act Drill Orau - K-Trap

Act Rhyngwladol Orau - Drake a 21 Savage

Act Gerddoriaeth Orau'r Caribî  - Valiant 

Act Gospel Orau - Limboblaze

Cynhyrchydd Orau  - Info

Personoliaeth Orau yn y Cyfryngau - Shxtsngigs

Act Electronig/Dawns Orau - ShyGirl

Act R&B/Enaid Orau - Sault

Gwobr Mobo yn Palmantu'r Ffordd - Dame Jessica Ennis Hill

Act Newydd Orau - Tunde

Gwobr Arloeswr Mobo - Ghetts

Prif luniau: Wikipedia

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.