Newyddion S4C

Tymheredd byd eang wedi cynyddu’n uwch na 1.5C am flwyddyn gyfan am y tro cyntaf

08/02/2024
Newid hinsawdd

Mae’r tymheredd byd eang wedi cynyddu’n uwch na 1.5C dros gyfnod o flwyddyn gyfan – a hynny am y tro cyntaf erioed, yn ôl gwasanaeth amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd. 

Fe ddaw’r cadarnhad gan wasanaeth newid hinsawdd Copernicus yr UE, wedi i’r tymheredd rhwng mis Chwefror 2023 a Ionawr 2024 gynhesu hyd at 1.52C am y tro cyntaf ar gofnod. 

Mis Ionawr eleni oedd yr wythfed mis mwyaf cynnes erioed yn olynol.

Ac mae tymheredd y môr hefyd ar ei uchaf ers i gofnod gael ei gadw – sy’n arwydd pellach o’r ffordd y mae’r tymheredd byd eang yn parhau ar gynnydd. 

Mae ymdrechion i fynd i’r afael a chynhesu byd eang wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn, ac fe wnaeth arweinwyr y byd ymrwymo i atal tymheredd y byd rhag cynyddu i 1.5C fel rhan o gytundeb Paris yn 2015.

Er nad yw’r flwyddyn gyntaf ar gofnod dros dymheredd 1.5C yn tanseilio'r cytundeb hwnnw, mae peryg y gallai’r tymheredd barhau i gynyddu dros gyfnod hirdymor fel mae rhai arbenigwyr wedi ei rybuddio. 

Ond fe allai ymdrechion i dorri allyriadau carbon arafu cynhesu byd eang o hyd pe bai camau'n cael eu gweithredu ar unwaith. 

Poethaf ar gofnod

Mae cadw cynhesu byd eang ar dymheredd yn ddim uwch na 1.5C uwchlaw lefelau “cyn-ddiwydiannol,” sef y cyfnod cyn i bobl ddechrau llosgi tanwydd ffosil, wedi dod yn brif nod ymdrechion rhyngwladol i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Ac mae anghytuno ymysg cyrff rhyngwladol ynglŷn â gwir dymheredd y byd. 

Roedd un grŵp, Berkeley Earth, eisoes wedi dweud taw 2023 oedd y flwyddyn galendr mwyaf cynnes ar gofnod gyda thymheredd yn 1.5C yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol. 

Ond dywedodd NASA bod y 12 mis diwethaf ychydig o dan y lefel 1.5C o gynhesu byd eang. 

Daw’r gwahaniaethau yma yn bennaf oherwydd y ffordd mae’r tymheredd byd eang wedi cael ei fesur ers diwedd 19fed ganrif, a hynny pan oedd rhagolygon yn fwy prin.

Ond mae’r data rhyngwladol ar y cyfan yn dangos bod y tymheredd byd eang wedi parhau i gynhesu ar raddfa llawer iawn yn uwch ers i gofnodion gael eu cadw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.