Newyddion S4C

Kate Garraway'n diolch am gefnogaeth 'anghygoel' y cyhoedd wrth ddychwelyd i'r gwaith

08/02/2024
Derek Draper

Mae’r cyflwynydd teledu Kate Garraway wedi diolch i wylwyr Good Morning Britain am eu cariad a chefnogaeth “anhygoel” wedi iddi ddychwelyd i sioe frecwast ITV llai nag wythnos wedi angladd ei gŵr. 

Bu farw Derek Draper yn 56 oed ar 3 Ionawr wedi iddo ddioddef symptomau hirdymor Covid-19, ac fe gafodd ei angladd ei gynnal ddydd Gwener diwethaf. 

Wrth ddychwelyd i’r gwaith ddydd Iau, dywedodd Kate Garraway ei bod yn llawn emosiwn wedi iddi gael ei chroesawu’n ôl i’w sedd gyflwyno. 

“Roedd y merched ar y tîm colur wedi gwneud i mi grio bore ‘ma jyst trwy ddweud helo,” meddai ar gychwyn y rhaglen. 

“Diolch i bawb adre’ hefyd, dwi’n gwybod fy mod eisoes wedi sôn ddydd Llun ond ‘dych chi wedi bod yn anhygoel.” 

Fe ymddangosodd Garraway ar Good Morning Britain ddydd Llun, ddyddiau cyn iddi ddychwelyd yn swyddogol, gan drafod sut yr oedd hi a’i phlant wedi ymdopi gyda’u galar ers eu colled.

Dywedodd ei chyd-weithiwr Ben Shephard ddydd Iau y dylai fod yn falch iawn o’i hunan wedi angladd “arbennig” ei gŵr. 

“Rwyt ti wedi gwneud Derek yn falch iawn,” meddai, “roedd e’n beth anhygoel.” 

Cyfaddefodd Garraway ei bod yn teimlo ychydig yn ansicr wrth gynnal yr angladd gan ddweud ei bod hi “bendant” eisiau sicrhau mai prif ffocws yr angladd oedd ei gŵr, “ac nid fi” meddai. 

“Ond roedd e’n hyfryd hefyd i deimlo cymaint o gariad gan bawb,” ychwanegodd. 

Fe gafodd angladd Derek Draper ei gynnal yn Primrose Hill yng ngogledd-orllewin Llundain ddydd Gwener, sef yr eglwys lle priododd y ddau ym mis Medi 2005.

Roedd sawl ffigwr adnabyddus yn bresennol yn ystod y gwasanaeth gan gynnwys y cyn prif weinidog, Syr Tony Blair, y cerddor Syr Elton John ac arweinydd y blaid Lafur, Syr Keir Starmer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.