Newyddion S4C

Ysgolion ar gau a thrafferthion ar y ffyrdd o achos eira

08/02/2024
eira

Prynhawn da a chroeso i dudalen ddiweddariadau byw Newyddion S4C, fydd yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r tywydd ddydd Iau.

Mae holl ysgolion Sir y Fflint ar gau heddiw gan fod rhybudd oren am eira a rhew yn dod i rym yn ystod y bore. Arhoswch gyda ni am y diweddaraf drwy gydol y dydd.

Prif lun: Paul Divall-Simmons

Image
Eira yn Llanrwst

Crynodeb

  • 13:10

    Ceir mewn trafferthion rhwng Wrecsam a Rhuthun

  • 12:48

    Bwlch yr Oernant ar gau o achos y tywydd

  • 12:25

    Gwrthdrawiad ar yr A55

  • 11:50

    Cwmni bysiau yn atal gwasanaethau

  • 11:13

    Amodau gyrru gwael ar yr A55

  • 09:31

    Amodau gyrru gwael mewn rhan o Wynedd

  • 08:04

    'Gwir ystyr Snowflakes': Beirniadu cyngor am gau pob ysgol

  • 07:14

    88 o ysgolion Sir y Fflint ar gau

  • 06:50

    Lle'n union mae'r rhybudd mewn grym?

16:49

A dyna ni...

Diolch am ddilyn ein llif byw wrth i eira ddisgyn mewn rhannau o Gymru ddydd Iau.

Cofiwch gadw golwg ar wefan ac ap Newyddion S4C ar gyfer unrhyw ddatblygiadau neu rybuddion tywydd yn y dyfodol.

13:21

Chwe ysgol ar gau yn ardal Wrecsam

Mae chwe ysgol ar gau neu ar gau'n rhannol yn ardal Wrecsam bellach o achos y tywydd.

Mae modd dod o hyd i'r diweddaraf am ysgolion y sir yma.

Image
ysgolion

 

13:10

Ceir mewn trafferthion rhwng Wrecsam a Rhuthun

Mae adroddiadau bod ceir yn cael trafferth teithio ar hyd y brif ffordd rhwng Wrecsam a Rhuthun brynhawn dydd Iau.

Mewn neges ar X, dywedodd y cyn-aleod Seneddol Ian Lucas ei fod yn sownd ar ffordd yr A525 ar hyn o bryd o achos y tywydd:

12:56

Eira yn Rhosllanerchrugog

Mae bron i fodfedd o eira wedi disgyn ym mhentref Rhosllanerchrugog fore ma.

Dyma lun o'r pentref gan Paul Divall-Simmons.

Image
Eira

12:48

Bwlch yr Oernant ar gau o achos y tywydd

Mae Bwlch yr Oernant ar gau ar hyn o bryd oherwydd yr amodau tywydd medd Heddlu'r Gogledd.
 
Mae'r llu wedi derbyn sawl adroddiad am wrthdrawiadau mewn ardaloedd gwledig o Siroedd Dinbych, Wrecsam a'r Fflint, ac mae swyddogion yn delio hefo nhw i gyd ar hyn o bryd. 
 
"Pwyll pia hi os ydych yn teithio ar y ffyrdd pnawn 'ma", meddai'r llu mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol.

12:25

Gwrthdrawiad ar yr A55

Mae un lôn ar gau tua'r dwyrain yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cyffyrdd 31 a 32 ar ffordd yr A55 ger Caerwys.

Mae adroddiadau fod yr amodau gyrru yn heriol oherwydd y rhew.

11:50

Cwmni bysiau yn atal gwasanaethau

Mae cwmni bysiau Arriva wedi trydar eu bod yn atal rhai gwasanaethau yn ardal Wrecsam oherwydd yr eira.

11:13

Amodau gyrru gwael ar yr A55

Rhybudd i deithwyr sydd yn mentro allan ar yr A55 i gyfeiriad Sir y Fflint ar hyn o bryd - mae amodau gyrru'n wael medd gwasanaeth Traffig Cymru:

11:06

Golygfeydd gaeafol yn y Rhos

Mae'r eira'n disgyn mewn sawl ardal o Sir Wrecsam erbyn ganol bore.

Dyma'r olygfa yn Rhosllanerchrugog erbyn hyn:

11:00

Eira ar y bryniau yng ngogledd Lloegr

Mae eira wedi disgyn yn drwch ar rai o fryniau gogledd Lloegr fore dydd Iau - dyma'r olygfa yn Buxton, yn Ne Sir Efrog:

Image
Buxton

 

10:55

Adroddiadau o eira'n disgyn yn Wrecsam

Mae adroddiadau bod eira'n disgyn yn Wrecsam ar hyn o bryd, ond nid oes son hyd yma ei fod yn achosi unrhyw drafferthion.

10:24

Llifogydd yn cau ffordd yn Sir Benfro

Rhagor o law sydd yn gyfrifol am gau un o ffyrdd y de orllewin fore dydd Iau.

Dyma'r diweddaraf am gyflwr ffordd y B4318 Gumfreston:

09:31

Amodau gyrru gwael mewn rhan o Wynedd

Mae Traffig Cymru'n rhybuddio bod amodau gyrru'n wael ar hyn o bryd rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog.

Pwyll piau hi felly os yn mentro allan ar ffyrdd yr ardal.

09:06

Cyngor Dŵr Cymru ar ddiogelu tai rhag effeithiau tywydd oer

Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi cyngor ar berchnogion tai ag adeiladau ar sut i ddiogelu eiddo rhag effeithiau tywydd oer:
 
"Mae'r gaeaf yn gallu bod yn amser hudolus, ond mae tywydd oer iawn yn gallu achosi problemau mawr os nad ydych chi’n barod. 
 
"Pan fo’r tymheredd yn gostwng, gall y dŵr yn eich pibellau a’ch tapiau rewi, gan atal eich cyflenwad dŵr a chwalu’ch pibellau. 
 
"Pibellau a thapiau yn yr awyr agored, neu mewn llefydd oer iawn fel llofft neu garej, sydd fwyaf tebygol o rewi, a phan fo dŵr yn rhewi, mae’n ehangu, sy’n gallu cracio’r pibellau metel cryfaf hyd yn oed. 
 
"Y newyddion da yw bod yna bethau syml iawn y gallwch eu gwneud i sicrhau bod eich cartref neu’ch busnes yn barod am y gaeaf."

08:57

Gohirio cystadleuaeth chwaraeon yr Urdd

Mae Urdd Morgannwg Ganol wedi cyhoeddi bod cystadleuaeth chwaraeon i blant yr ardal wedi ei gohirio heddiw.

Glaw yn hytrach na eira sydd yn ymddangos yn gyfrifol am y newid trefniadau.

08:48

Dim golwg o eira mawr - eto

Ychydig iawn o eira sydd wedi disgyn hyd yn hyn - ond mae peth ar y ffordd yn ôl dyn eira'r BBC Matt Taylor.

"Os ydych chi ar fin agor y llenni ac yn pendroni “a fydd hi'n bwrw eira allan”, yr ateb i'r mwyafrif helaeth ar hyn o bryd yw na yn bendant.

"Glaw yw'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n disgyn o'r awyr ar hyn o bryd. Ond, bydd hynny’n newid. Mae ffrynt tywydd bellach yn ymylu ar aer oerach ac mae eira eisoes yn dechrau cwympo i rai yng ngogledd Cymru, canolbarth Lloegr a gogledd Lloegr.

"Wrth iddyn nhw ymylu mwy i'r aer oerach, bydd cwymp eira yn dod yn fwy o broblem trwy'r bore."

08:24

Cau safleoedd Coleg Cambria yn Wrecsam

Mae holl safleoedd Coleg Cambria yn Wrecsam ar gau ddydd Iau o ganlyniad i dywydd garw posib.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y coleg y bydd gwersi a holl waith y staff yn symud i fod ar-lein

"Bydd safleoedd y coleg yn ailagor ddydd Llun 19.02.24 yn dilyn hanner tymor."

08:04

'Gwir ystyr Snowflakes': Beirniadu cyngor am gau pob ysgol

Ymateb cymysg sydd wedi bod ar gyfryngau cymdeithasol i'r cyhoeddiad y byddai holl ysgolion Sir y Fflint ar gau ddydd Iau.

Mae 88 o ysgolion ar gau yn y sir i gyd, gyda channoedd o ddisgyblion yn derbyn addysg o adref am y dydd.

Nid pawb oedd wedi eu plesio gyda'r cam i gau'r holl ysgolion, gyda nifer yn chwyrn eu beirniadaeth o'r penderfyniad cyn i'r un bluen eira ddisgyn yn y sir.

"Gwir ystyr 'snowflakes'' meddai un person ar Facebook, gydag un arall yn dweud "Wel am lol! Rhieni druan!"

"Di ddim yn bwrw eira eto!" meddai un arall.

07:48

Cyngor ar gadw'n ddiogel mewn amodau rhewllyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi cyngor i'r cyhoedd am sut i gadw'n ddiogel mewn amodau rhewllyd.

Mae'r cyngor yn edrych yn benodol ar amodau gyrru, sut i yrru dros rew, cadw'n ddiogel ar feic neu ar droed, a gofalu am yr henoed.

Mae modd dod o hyd i'r cyngor yma.

07:31

Y diweddaraf ar y ffyrdd

Mae'n dawel ar brif ffyrdd y gogledd ar hyn o bryd, cyn i'r rhybudd oren am eira a rhew ddod i rym.

Mae lorïau wedi bod yn graeanu ffyrdd y rhanbarth dros nos. Dyma'r darluniau diweddaraf ar yr A55:

Image
A55

07:26

Pob ysgol ar agor yng Ngwynedd

Newyddion drwg i ddisgyblion Gwynedd, ond newyddion da i'w rhieni  - mae bob ysgol yn y sir ar agor ar y funud:

Image
gwynedd

07:18

Anfonwch eich lluniau o'r eira i ni

Image
eira

07:14

88 o ysgolion Sir y Fflint ar gau

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi bod eu holl ysgolion - 88 ysgol a chanolfan addysg i gyd - wedi cau ddydd Iau o ganlyniad i'r rhybudd oren am rew ag eira.

Mae'r rhestr gyflawn o'r holl ysgolion sydd ar gau yn y sir ar gael yma.

Bydd pob canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ar gau dydd Iau hefyd, sef canolfannau cyswllt y cyngor gyda'r cyhoedd.

Bydd pob safle Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Sir y Fflint ar gau hefyd.

Ond y bwriad yw i’r holl gasgliadau ysbwriel barhau yn ôl yr arfer. 

"Fodd bynnag byddwch yn ymwybodol y gallai fod yna rywfaint o amhariad" medd y cyngor.

Image
Prydiau ysgol.

 

07:07

Ysgol uwchradd ar gau yn Wrecsam

Mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi bod Ysgol Uwchradd Rhosesni wedi cau ddydd Iau.

Dywedodd gwefan y cyngor fod yr ysgol ar gau o achos "dim digon o staff, cymhlethdodau o ganlyniad i dywydd garw."

06:50

Lle'n union mae'r rhybudd mewn grym?

Mae disgwyl i 10-15cm o eira ddisgyn ond gall rhai ardaloedd sydd yn uwch na 200m weld rhwng 20 a 25cm o eira. 

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio ei bod hi'n fwy diogel i beidio â gyrru yn yr amodau hyn, ond os oes angen gwneud taith hanfodol, dylai pobl ystyried defnyddio dulliau eraill o drafnidiaeth.

Mae posibilrwydd y gallai rhai ardaloedd brofi toriadau pŵer.

Mae disgwyl oedi ar y ffyrdd yn ogystal â gwasanaethau rheilffyrdd. 

Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys

Image
map

06:44

Rhybudd i deithwyr fore Iau

Mae Heddlu'r Gogledd wedi rhybuddio teithwyr i fod yn ofalus ar y ffyrdd os bydd yr amodau'n newid yn ystod y bore.

Y cyngor yw i wirio'r arolygon o flaen llaw a chymryd pwyll a gofal os yn mentro allan mewn eira:

06:40

Nifer o ysgolion ar gau ym Mhowys

Mae Cyngor Powys wedi cyhoeddi y bydd nifer o ysgolion ar gau ddydd Iau wedi'r cyhoeddiad am y rhybydd tywydd.

Dyma'r ysgolion sydd ar gau ben bore ond fe allai'r darlun newid yn ystod y dydd:

Image
Powys

 

06:26

Ysgolion Sir y Fflint ar gau

Mae cannoedd o ddisgyblion yn y gogledd ddwyrain yn dysgu o adref wedi i Gyngor Sir y Fflint gyhoeddi na fydd ysgolion ar agor ddydd Iau.

Ar gyfryngau cymdeithasol nos Fercher fe gyhoeddodd nifer o ysgolion yr ardal eu bod wedi derbyn gwybodaeth yn gynharach fod angen iddynt gau.

Mewn neges ar Facebook, dywedodd y Cynghorydd Dave Healey: "Mewn ymateb i ragolygon y tywydd fe benderfynwyd y bydd holl ysgolion Sir y Fflint ar gau yfory. 

"Mae disgwyl eira ar dir uchel ac mae cyngor mai dim ond teithiau hanfodol y mae pobl yn eu gwneud. 

"Mae rhai staff yn teithio cryn bellter ond bydd trafnidiaeth ysgol a chludiant i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn cael eu heffeithio. Mae ysgolion yn cael eu cynghori i wneud trefniadau ar gyfer dysgu ar-lein."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.