Newyddion S4C

'Amhrisiadwy': Pryderon am ddyfodol un o ganolfannau addysg amlyca'r gogledd

07/02/2024

'Amhrisiadwy': Pryderon am ddyfodol un o ganolfannau addysg amlyca'r gogledd

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ystyried dyfodol canolfan astudiaeth ym Maentwrog ger Blaenau Ffestiniog, ac mae hynny wedi arwain at bryderon. 

Ddydd Mercher, fe fydd awdurdod y parc yn trafod y posiblrwydd o werthu Plas Tan y Bwlch sydd wedi cynnig amrywiaeth o gyrsiau preswyl ers bron i 50 mlynedd. 

Cyn ei thrawsnewid yn ganolfan addysg, roedd Plas Tan y Bwlch yn blasty gwledig.

Gyda 27 o ystafelloedd, mae 10 o bobl yn gweithio ar y safle erbyn hyn.

Ond gyda’r esgid yn gwasgu, mae pryderon am ddyfodol yr adeilad rhestredig.

Er bod y ganolfan wedi bod yn darparu cyrsiau ers bron i hanner can mlynedd, yn ôl swyddogion, mae'r "pandemig, chwyddiant a llymder" wedi effeithio ar y ganolfan yn y blynyddoedd diweddar ac nid oes modd iddynt ddatblygu canolfan hyfyw yno bellach. 

Yn ôl adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Mercher, "er fod aelodau eisiau gweld y plas yn ffynnu...nid yw'r awdurdod yn gallu gwneud hynny."

Mae’r bwrdd hefyd yn “derbyn na all y plas weithredu fel canolfan astudio amgylcheddol gan fod y ddarpariaeth ar gyfer cyrsiau o'r fath wedi newid yn sylweddol.”

Partner newydd neu werthu 

Gyda’r angen i leihau'r gwariant, y nod yw dod o hyd i bartner newydd neu ei werthu ar y farchnad agored o fewn chwech mis.

Dywedodd cyn-ddarlithydd ym Mhlas Tan y Bwlch, Twm Elias: Mae o'n adnodd hollbwysig yn cyflawni amcanion addysgiadol y parc yn un peth. 

"Oedden ni'n gweithredu felly drwy gynnal bob math o gyrsiau, cyrsiau i bobl sydd yn dod i Eryri, ysgolion lleol, y gymuned leol, ag y bobl o tu allan i werthfawrogi mwy am dreftadaeth ddiwylliannol yr ardal.

"Mi oedd y gwasanaeth oedden ni'n medru gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg ynde yn amhrisiadwy dwi'n meddwl."

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Emyr Williams: "Be 'da ni 'di sbio arno fo ydy, ydy o'n statudol i ni redeg lle fel hyn? Yn anffodus, nadi. 

"Ydy o'n cyfrannu at bwrpas y parc cenedlaethol? Yndi yn rhannol. Ond 'dy ni gyd eisiau gweld plas yn llewyrchu. Ond efo sefyllfa ariannol yr awdurdod, dydy'r arian ddim gynnon ni fuddsoddi yno fo. 

"A dydy'r achos busnes i redeg o fel lle i aros a lle i gyfarfod ddim digon agos bellach i bwrpas y parc cenedlaethol."

Llun: Parc Cenedlaethol Eryri

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.