Newyddion S4C

Gwyliwch: Llwyth anarferol o fawr yn ymlwybro drwy Gwm Cynon

06/02/2024

Gwyliwch: Llwyth anarferol o fawr yn ymlwybro drwy Gwm Cynon

Mae llwyth anarferol o fawr aeth yn sownd dan bont yng Nghwm Cynon bellach wedi cael ei gludo drwy bentrefi lleol er mwyn iddo gyrraedd pen ei daith ddydd Mawrth. 

Fe aeth y llwyth yn sownd dan bont Glofa'r Tŵr ger pentref y Rhigos ddiwedd fis Ionawr gan achosi oedi i drafnidiaeth lleol. 

Ond mae’r llwyth bellach wedi’i gludo drwy Hirwaun, a hynny ar ei ffordd i’w leoliad terfynol yng ngorsaf bŵer Hirwaun. 

Roedd disgwyl i’r llwyth gael ei gludo'n wreiddiol gan gwmni Allelys ddydd Iau diwethaf. 

Ond fe wrthwynebodd cynghorwyr lleol a chyngor Rhondda Cynon Taf y cynlluniau “munud olaf,” gan nad oedd digon o rybudd wedi’i roi i drigolion a fyddai’n cael eu heffeithio.  

Cafodd arwyddion oedd yn rhybuddio trigolion lleol i beidio parcio eu cerbydau ar y briffordd trwy’r pentref eu tynnu i lawr yn hwyr nos Iau, gan achosi “dryswch,” medd rhai trigolion.

Mewn llythyr a gafodd ei anfon i drigolion lleol, dywedodd cwmni Allelys eu bod yn “cydnabod bod y gymuned wedi wynebu blynyddoedd maith o oedi ar y ffyrdd yn sgil gwaith parhaol ar ffordd A456 Blaenau’r Cymoedd” a’i fod wedi gweithio’n “galed” i ddod o hyd i ddatrysiad. 

Yn y llythyr, roedd y cwmni hefyd yn cadarnhau cynlluniau i geisio symud y llwyth unwaith eto ddydd Mawrth. 

Mae'r ffordd rhwng Ffordd Aberhonddu a Ffordd y Rhigos wedi ei chau rhwng 09.00 a 14.00 er mwyn i’r llwyth fynd heibio. 

Bydd y llwyth yn cael ei gludo’n bellach ar hyd ffordd yr A4059, gan ymuno â’r A4061 cyn troi i’r dde tuag at stad ddiwydiannol Hirwaun.

Cafodd gwasanaethau bysiau eu hatal drwy'r pentref wedi i'r ffordd gael ei chau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.