Parhau i chwilio am ddyn sydd ar goll yn Eryri ers dechrau Ionawr
Mae Heddlu'r Gogledd ag asiantaethau achub yn parhau i chwilio am ddyn sydd ar goll yn ardal y Carneddau yn Eryri ers dechrau Ionawr.
Mae David Brookfield yn 65 oed ac fe gafodd ei weld ddiwethaf ar 9 Ionawr yn cario bag cefn gwyrddlas.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: "Rydym yn parhau i chwilio am David, 65, sydd wedi bod ar goll o ardal y Carneddau yn Eryri ers 9 Ionawr.
"Mae chwiliadau aml-asiantaeth wedi bod yn parhau yn dilyn ei ddiflaniad, ond nid yw David wedi’i ganfod eto."
Dywedodd y Prif Arolygydd David Cust: “Hoffwn ddiolch i asiantaethau partner a’r gymuned ehangach am eu cefnogaeth a’u cymorth wrth chwilio am David, sy’n parhau fel y bydd y tywydd yn caniatáu.
“Rwy’n apelio ar unrhyw un sydd wedi bod allan yn cerdded yn yr ardal ac efallai wedi dod ar draws sach gefn fawr, fel y gwelir yn y llun, i gysylltu â ni.
“Rydym yn parhau i gefnogi teulu David ar yr amser anodd hwn.”
Gofynnir i unrhyw un a allai fod wedi gweld David ers iddo ddiflannu, gysylltu gyda'r heddlu gan ddyfynnu’r cyfeirnod Q004447.