Newyddion S4C

Menyw o Gaerdydd yn annog mwy i redeg er lles eu hiechyd meddwl wedi marwolaeth ffrind

06/02/2024
Bethan Davies

Rhybudd: Mae'r erthygl ganlynol yn trafod hunanladdiad

“Fi’n meddwl am Jon pob run ar hyn o bryd – ac mae hwnna’n helpu achos mae’n rhoi'r space ‘na i fi.” 

Mae menyw o Gaerdydd yn benderfynol o godi ymwybyddiaeth am broblemau iechyd meddwl ar ôl iddi golli ffrind wedi iddo ladd ei hun y llynedd. 

Mae Bethan Davies, sy’n wreiddiol o Faesycwmer yn Sir Caerffili, wedi penderfynu rhedeg marathon Llundain er cof am ei ffrind ers dyddiau ysgol, Jonathan. Mae'n dweud fod hynny wedi ei helpu i ymdopi â’i galar. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Mae ‘na lot o could’ve, would’ve, should’ve o ran sut byse fi’n gobeithio byswn i wedi bod yn ffrind gwahanol neu ffrind gwell i fe. 

“Ond mae hefyd, fi’n meddwl, dros amser wedi rhoi’r cyfle i fi meddwl nôl mewn ffordd mwy positif a fframio pethau yn fy meddwl i, bod fi’n cymryd y camau ‘ma i godi ymwybyddiaeth.

“Does dim ffordd o ‘neud unrhyw beth positif o ran sefyllfa fel hyn ond fi’n credu bod hyn yn rhywbeth allai neud, yn selfish iawn, i deimlo’n well fy hunan. 

“Does dim byd gall unrhyw un neud nawr o ran y gorffennol ond dwi’n teimlo bod hyn yn rhywbeth falle all helpu pobl eraill,” meddai. 

Image
Bethan Davies a'i ffrind
Bethan Davies a'i ffrind, Jonathan, yn y chweched dosbarth

‘Cysur’

Er nad yw hi’n ystyried ei hun yn rhedwr “da iawn,” mae rhedeg wedi bod yn gysur wrth iddi ymdopi gyda’r heriau iechyd meddwl ar ôl colli ffrind, meddai. 

Ac wrth i elusennau Mind Cymru ac Athletau Cymru lansio partneriaeth newydd i godi ymwybyddiaeth am yr effaith gadarnhaol y mae ymarfer corff yn ei gael ar iechyd meddwl ddydd Mawrth, mae Ms Davies yn annog eraill i ystyried y gamp. 

“Mae’n helpu gymaint,” meddai, “rwy’n teimlo lot mwy gryf yn pob ffordd ers i fi ‘neud yr ymrwymiad ‘na i fynd allan tair gwaith yr wythnos ers y flwyddyn dwetha'.”

Wrth gymryd rhan ym marathon Llundain ym mis Ebrill eleni, bydd Ms Davies yn codi arian ar gyfer yr elusen Mental Health Foundation, sy’n rhoi cyngor i deuluoedd ar sut i helpu eu hanwyliad cyn i’w problemau iechyd meddwl waethygu. 

“Fi’n onest iawn gyda fy hunan fi, fi’n rhedeg y marathon i ‘neud fy hun i deimlo’n well,” meddai. 

"'Da ni fel criw yn cadw cysylltiad 'da mam Jonathan, a mae hi yn hoffi clywed am fy anturiaethau yn hyfforddi - hi oedd un o fy noddwyr cynta."

Image
Bethan Davies a'i ffrind
Bethan Davies a'i ffrind, Heidi, wedi iddyn nhw gwblhau hanner marathon Caerdydd

'Torri calon'

Mae Ms Davies eisiau dechrau sgwrs agored ynglŷn â phroblemau iechyd ac mae’n ysgrifennu am ei cholled yn aml.

Mae’n awyddus i ragor o bobl allu adnabod symptomau unrhyw anawsterau.

“Fi’n credu nawr gyda hindsight, os o’n i wedi slofi lawr a meddwl, byswn i wedi recogniso’r issues

“Os o’n i’n gweld yr issues yna nawr, fel y person dwi yn nawr, fyswn i wedi gweld nhw a fyswn i wedi identifo nhw ond o’n i’n person gwahanol cwpwl o flynyddoedd yn ôl a doeddwn i ddim yn gweld nhw yn y context hwnna. A dyna be’ sy’n anodd,” meddai. 

Ond wedi iddi brofi anawsterau iechyd meddwl yn y gorffennol ei hunan, mae hefyd yn cydnabod yr heriau wrth geisio helpu'r rheiny sy’n dioddef. 

“Mae’n anodd gwybod beth i ‘neud lot o’r amser. 

“’Odd [Jonathan] wedi cilio a cuddio o lot o bobl, ac ar bwrpas hefyd. A pan fyswn i’n gweld e, o’n i’n mor hapus, ond ‘odd e’n surprised bod ni’n mor hapus i weld e. Ac ‘odd hwnna’n torri calon.

“Fi’n gwybod oedd lot ohonom ni yn trio tynnu fe ymlaen ond oedd i’w weld yn impossible weithiau. ’Odd e’n styc mewn un amser a styc mewn un rhan o’i fywyd e ac 'odd e’n anodd tynnu fe ymlaen. 

“Nes i golli cysylltiad rili mwy nag unrhyw beth ac mae’n anodd iawn aligno’r realiti o rywun sydd wedi cymryd ei fywyd gyda’r person oeddet ti’n gwybod ac yn rili agos i mewn rhyw ran o dy fywyd di.” 

Image
Bethan Davies a'i ffrindiau
Bethan, Jonathan, a'u ffrindiau ar eu gwyliau yng Nghorc yng Ngweriniaeth Iwerddon

Hyfforddi

Fel rhan o’r bartneriaeth newydd rhwng Mind Cymru ac Athletau Cymru, a gafodd ei lansio yn y Senedd ddydd Mawrth, bydd arbenigwyr bellach yn hyfforddi hyrwyddwyr iechyd meddwl yn y 100 clwb athletau a 60 grŵp rhedeg cymdeithasol sydd yng Nghymru.

Gobaith Mind Cymru yw gwella iechyd meddwl mewn cymunedau rhedeg a defnyddio’r gamp i hyrwyddo manteision ehangach ymarfer corff, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r cymorth mae Mind yn cynnig ar draws Cymru i gyd.

Dywedodd James Williams, prif swyddog gweithredol Athletau Cymru: “Rydyn ni’n hynod ymwybodol o effaith a hyd a lled ein camp, gyda bron i 500,000 o bobl yn rhedeg yn rheolaidd ledled Cymru. 

“Mae’r cyfle hwn i ddefnyddio grym rhedeg i gefnogi gwelliannau mewn lles meddyliol yn enfawr, a bydd y bartneriaeth hon yn ein galluogi i adeiladu rhwydwaith cynaliadwy o gymorth a fydd yn cael effaith barhaol ar draws pob rhan o Gymru.”

Yn ôl eu gwaith ymchwil, fe all rhedeg rhoi hwb i hunan-barch unigolion a lleihau’r risg o iselder hyd at 30%. 

Dywedodd Sue O’Leary, sef cyfarwyddwr gweithredol Mind Cymru: “Rydyn ni’n gwybod bod gwneud ymarfer corff rheolaidd nid yn unig yn dda i’n cyrff ond hefyd yn gallu gwella ein lles meddyliol, a dyna pam rydyn ni’n falch iawn o weithio gydag Athletau Cymru ar y fenter hon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.