Newyddion S4C

Yr actor Ian Lavender wedi marw yn 77 oed

05/02/2024
Ian Lavender

Mae'r actor Ian Lavender, a oedd fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Private Pike yng nghyfres gomedi boblogaidd y BBC, Dad’s Army, wedi marw. 

Roedd yn 77 oed. 

Fe oedd yr unig un a oedd yn dal yn fyw ymhlith prif actorion Dad's Army.

Cadarnhaodd ei asiant iddo farw fore Gwener diwethaf.  

Wedi ei eni yn Birmingham, ymddangosodd mewn sawl cyfres arall, yn cynnwys yr opera sebon Eastenders gan chwarae rhan Derek Harkinson, ffrind Pauline Fowler. 

Dychwelodd i Walford yn 2016, cyn gadael eto yn 2017 oherwydd salwch. Cafodd ganser a thrawiad ar y galon.   

Ond roedd yn cael ei gysylltu'n bennaf â'r cymeriad hoffus Pike, aelod ieuengaf y gwarchodlu yng nghyfres Dad's Army.  

Ymunodd â'r gyfres yn 22 oed, ac fe dreuliodd 10 mlynedd yn chwarae rhan Pike.  

Yn y 70au, roedd mwy na 18 miliwn o bobl yn gwylio Dad's Army yn gyson, ac roedd hi ymhlith rhaglenni mwyaf poblogaidd y BBC ar y pryd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.