Newyddion S4C

Carchar i ddyn wedi i'w gi frathu merch dair oed yn Sir Conwy

05/02/2024
Anthony Desmond

Mae dyn wedi ei garcharu ar ôl i’w gi frathu merch dair oed ar ei thalcen, a hynny bum niwrnod ar ôl iddo dderbyn rhybudd gan yr heddlu am ganiatáu i'w gi redeg yn rhydd.

Cafodd Anthony Desmond, 43 oed, o Fae Cinmel, Sir Conwy, ddedfryd o 12 mis ar ôl pledio’n euog i fod yn berchen ar gi Cane Corso a oedd yn beryglus a thu hwnt i’w reolaeth, ar 26 Mai 2023. 

Digwyddod yr ymosodiad y tu allan i dafarn the Magpie and Stump yn Nhowyn.

Doedd dim penderfyniad ynghylch a ddylid difa'r ci ai peidio, gan y bydd apêl yn cael ei chyflwyno yn erbyn y ddedfryd.

Dywedodd y bargyfreithiwr Simon Killeen, oedd yn amddiffyn Desmond, fod ei gleient, sydd yn derbyn budd-daliadau, wedi bod mewn tafarn gyda'i gi Frank ar dennyn, a’i fod wedi rhybuddio’r plentyn dro ar ôl tro i beidio â mynd yn agos at y ci.

Dywedodd Mr Killeen: “Nid yw hwn yn berchennog ci anghyfrifol.”

Dywedodd yr erlynydd Thomas McLoughlin fod y ferch wedi bod yn sgrechian ac yn crïo ar ôl yr ymosodiad, yn ystod diwrnod o hwyl i’r teulu, ac fe gafodd ei chludo i’r ysbyty.

Cafodd Desmond ei arestio ddeuddydd yn ddiweddarach. “Dywedodd wrth yr heddlu ‘nad ydych chi’n cymryd fy nghi’ a cheisiodd gau’r drws ffrynt,” meddai’r cwnsler.

Er hynny, fe wnaeth yr heddlu gymryd Frank a’i roi mewn cenel ar gost o £3,795.

Dywedodd y barnwr, Wyn Lloyd Jones, wrth Desmond fod y ferch wedi cael dau friw i’w thalcen gan gynnwys un oedd wedi “methu ei llygad chwith o drwch blewyn”.

“Fe allai hi fod wedi colli un o’i llygaid,” meddai.

Roedd Frank yn gi mawr a phwerus. Ar Ebrill 1, roedd y ci wedi bod yn rhedeg yn rhydd ac, ar Fai 21, roedd yr heddlu wedi rhoi rhybudd i Desmond am hynny.

Dywedodd y barnwr wrth y diffynnydd: “Mae cŵn sydd allan o reolaeth ac yn beryglus yn broblem ddifrifol yn ein cymdeithas. Maent yn lladd, maent yn achosi anaf, weithiau'n ddifrifol.

“Mae gan y rhai, fel chi, sy'n berchen ar gŵn, gyfrifoldeb mawr tuag at y cyhoedd os yw'r ci yn cael ei adael allan yn gyhoeddus. Ni ellir gorbwysleisio’r peryglon y gallai hyn eu peri.”

Ychwanegodd y barnwr: “Mae’r drosedd hon mor ddifrifol, dim ond dedfryd o garchar ar unwaith sy’n briodol. 

“Ni fyddai dedfryd ohiriedig yn gosb ddigonol am yr hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw.”

Llun: Llun cyffredinol o gi cane corso (Flickr/Katherine Mihailova)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.