Newyddion S4C

Carcharu dyn am oes am lofruddio Georgina Dowey yn Nhregatwg

05/02/2024

Carcharu dyn am oes am lofruddio Georgina Dowey yn Nhregatwg

Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio menyw fregus yn Nhregatwg, Castell-nedd y llynedd.

Cafodd Mathew Pickering ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe fore dydd Llun.

Fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 17 mlynedd a hanner dan glo am lofruddio Georgina Dowey, oedd yn 46 oed.

Fe gafwyd Pickering yn euog ar ddiwedd achos llys yr wythnos ddiwethaf. Roedd wedi pledio'n euog i ddynladdiad ond fe wnaeth wadu cyhuddiad o lofruddiaeth ar ôl i gorff Georgina gael ei ddarganfod gan yr heddlu yn ei ystafell ymolchi ar ddydd Sul, 7 Mai, 2023.

Roedd Georgina Dowey mewn perthynas â Pickering, ac wedi symud i'w gartref ym mis Mawrth 2023.

 Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt: “Mae’r ddedfryd hon yn cynrychioli cyfiawnder am lofruddiaeth Georgina gan ei phartner ei hun.

“Cafodd y gweithredoedd a gymerodd Mathew Pickering yn ei ymgais i ddianc... eu dal yn rhannol ar deledu cylch cyfyng.

“Gwelwyd Georgia yn fyw ddiwethaf ar ddydd Gwener, 5 Mai. Digwyddodd y llofruddiaeth naill ai’n hwyrach y noson honno neu yn ystod oriau mân y bore canlynol.

“Treuliodd tua 40 awr yn cuddio ei draciau tra bod corff Georgina yn gorwedd ar lawr ei thoiled i lawr y grisiau."

Ychwanegodd: “Ar ddydd Sadwrn, Mai 6, anfonodd y neges destun canlynol i ffôn Georgina: ‘Wnest ti gyrraedd Merthyr yn iawn? x’. Anfonodd y testun hwn yn llawn wybod fod ei chorff yn ei gartref.

“Am 16:31 y prynhawn hwnnw, fe aeth i’r siop gornel ar ei stryd i brynu hylif golchi. Byddai’n honni’n ddiweddarach iddo brynu’r hylif gan fod “ei gath yn chwarae yn y gwaed ar lawr yr ystafell fyw,” felly roedd angen iddo ei sychu.

“Cafodd hefyd wared ar dystiolaeth allweddol trwy osod eitemau mewn biniau yn yr ardal leol, gan gynnwys eitemau a ddarganfuwyd mewn bin gwastraff cŵn. 

"Roedd gan Georgina ddau ffôn symudol - na chafwyd hyd i'r naill na'r llall - a'r gred yw bod Mathew Pickering wedi cael gwared â nhw.

“Gwnaeth ddatgelu i aelodau’r teulu yr hyn yr oedd wedi’i wneud y diwrnod canlynol.

“Mae fy meddyliau’n parhau gyda theulu Georgina sydd, yn ddealladwy, wedi eu difrodi gan yr hyn sydd wedi digwydd.

“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol a thystion am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi i’r ymchwiliad hwn.”

Prif lun: Llun teulu / Llun Heddlu'r De

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.