Newyddion S4C

Ethol Michelle O'Neill yn Brif Weinidog cyntaf Gogledd Iwerddon o blaid Sinn Féin

03/02/2024

Ethol Michelle O'Neill yn Brif Weinidog cyntaf Gogledd Iwerddon o blaid Sinn Féin

Mae Michelle O'Neill o Sinn Féin wedi ei hethol yn Brif Weinidog cyntaf Gogledd Iwerddon o blaid genedlaethol Wyddelig.

Mae Emma Little-Pengelly o'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) yn cymryd rôl y dirprwy brif weinidog.

Daw wrth i wleidyddion ymgasglu yn Stormont am y tro cyntaf ers bron i ddwy flynedd, wedi i’r ail blaid fwyaf, y DUP, ddweud y bydden nhw’n dod a boicot dwy flynedd i ben.

Mae'r DUP wedi cyrraedd cytundeb newydd efo Llywodraeth Prydain sy’n golygu na fydd angen gwirio nwyddau sy’n cyrraedd y rhanbarth o dir mawr Prydain.

Dywedodd Michelle O'Neill yn ei haraith gyntaf fod heddiw "yn agor y drws i'r dyfodol".

"Rydym yn nodi eiliad o gydraddoldeb a chynnydd,” meddai. “Cyfle newydd i gydweithio a thyfu."

Dywedodd ei bod "wrth ei bodd i weld pob aelod etholedig o'r Cynulliad yn ôl yn y siambr yn Stormont".

Dywedodd O'Neill bod canlyniad etholiad Cynulliad 2022 "bellach yn cael ei barchu".

Darllen mwy: Beth yw arwyddocâd y gwleidyddion yn dychwelyd i Stormont?

'Anrhydedd'

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Emma Little-Pengelly, ei bod hi a’r Prif Weinidog Michelle O’Neill yn dod o “gefndiroedd gwahanol iawn”, ond dywedodd y bydd yn gweithio’n “ddiflino” i sicrhau eu bod nhw yn gallu cyflawni dros bawb yng Ngogledd Iwerddon.

“Rwy’n cydnabod ei bod yn foment hanesyddol i lawer heddiw gydag enwebiad Michelle O’Neill a minnau’n brif weinidogion,” meddai.

“Mae’n ddiwrnod sy’n cadarnhau canlyniad democrataidd yr etholiad.

“Mae gwasanaethu pobl yn y Tŷ hwn mewn unrhyw rôl yn anrhydedd ac yn fraint. Mae’n gyfle i siapio Gogledd Iwerddon er gwell ac i wneud gwahaniaeth ystyrlon.

“Rwy’n caru Gogledd Iwerddon. Rwy’n hynod falch o fod o’r lle hwn rydym yn ei alw’n gartref ac er gwaethaf ein hanes cythryblus yn aml a rhaniadau’r gorffennol, gwn fod gennym botensial anhygoel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.