Newyddion S4C

Pryder am bobl hŷn wrth i adeiladwyr twyllodrus 'gymryd mantais o’r argyfwng ynni'

04/02/2024
Hen bobl

Mae sefydliad sy’n diogelu pobl yng Nghymru rhag sgamiau yn galw ar hen bobl a phobl fregus i fod yn wyliadwrus o adeiladwyr twyllodrus sy’n ceisio cymryd mantais o’r argyfwng ynni. 

Mae Partneriaeth yn Erbyn Sgamiau Cymru (WASP) yn annog unigolion i geisio am gyngor cyn cytuno i insiwleiddio eu llofft gyda sbwng sy’n cael ei chwistrellu – wedi iddo gael ei gam-werthu i nifer o ddioddefwyr am filoedd o bunnoedd. 

Er bod defnydd o’r sylwedd yn gyfreithlon, mae’n yn addas i’w ddefnyddio mewn sefyllfaoedd penodol yn unig – a dylai gael ei ddarparu gan arbenigwyr yn unig, meddai WASP mewn partneriaeth ag elusen Age Cymru.  

Mae rhai gweithwyr adeiladu yn cam-werthu’r sylwedd gan ddweud ei fod yn ddatrysiad “cyflym” i broblemau ynni. 

Ond fe allai’r sylwedd achosi difrod i dai a'i gwneud hi’n anodd gwerthu eiddo.

Yn ôl gwaith ymchwil Age Cymru, fe gafodd un hen berson ei sgamio gan dalu £3,500 i roi’r sylwedd yn ei lofft, ac nid oedd yn gallu gwerthu ei dŷ o ganlyniad. 

Roedd rhaid iddyn nhw dalu £2,000 yn rhagor i gael gwared â’r sylwedd cyn iddyn nhw allu ceisio gwerthu’r tŷ unwaith eto, ond wedi dau fis oddi ar y farchnad roedd gwerth yr eiddo wedi gostwng o £15,000. 

Roedd unigolyn arall wedi cytuno i dalu £2,000 ar gyfer y sbwng cyn i’w deulu atal yr adeiladwr twyllodrus dan sylw, tra oedd unigolyn bregus gydag anableddau i’w glyw a’i lygaid wedi’i dwyllo allan o £4,000. 

‘Pryderu’

Dywedodd Sam Young, sy’n swyddog polisi Age Cymru a phennaeth sefydliad WASP ei fod yn pryderu am les hen bobl wrth i unigolion barhau i geisio cymryd mantais o’u sefyllfa.

“’Dyn ni’n deall bod llawr o hen bobl yn pryderu am sut maen nhw am dalu eu biliau ynni'r gaeaf hwn, ac o ganlyniad maen nhw’n agored i gael eu sgamio gan weithwyr adeiladu twyllodrus," meddai.

“Mae gwaith ymchwil eisoes wedi dangos mai hen bobl yw’r rhai sy’n fwyaf tebygol o gael eu targedu gan sgamwyr, gyda data Safonau Masnach Genedlaethol yn dweud bod 85% o’r rheiny sy’n cael eu sgamio wrth eu drws blaen yn dros 65 oed."

Ychwanegodd ei fod yn annog pobl i geisio am gyngor cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ond bod “miliynau o bunnoedd, gan gynnwys £200m o gredyd pensiwn, ddim yn cael ei hawlio gan unigolion pob blwyddyn yng Nghymru".

Dywedodd llefarydd ar ran Care & Repair Cymru: “Mae gwneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni yn bwysig i’ch iechyd, eich cyllid personol, a’r amgylchedd. 

“Ond rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i wneud llawer o waith ymchwil cyn cytuno i unrhyw waith adeiladu sy’n cynnwys defnydd o’r sbwng sy’n cael ei chwistrellu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.