Newyddion S4C

Y frech goch: Prif Swyddog Meddygol yn galw ar rieni i sicrhau bod eu plant wedi'u brechu

05/02/2024

Y frech goch: Prif Swyddog Meddygol yn galw ar rieni i sicrhau bod eu plant wedi'u brechu

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi galw ar rieni i sicrhau bod eu plant wedi'u brechu'n llawn yn erbyn y frech goch, yn ogystal â brechiadau pwysig eraill. 

Mae Syr Frank Atherton wedi rhybuddio y gallai achosion o’r frech goch gynyddu yng Nghymru os nad yw “camau ar frys” yn cael eu cymryd i gynyddu'r niferoedd sy'n cael brechiad y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR) ar hyd a lled y wlad. 

Dywedodd hefyd y dylai’r nifer o bobl sy’n derbyn cwrs llawn o’r brechlyn MMR cynyddu i 95%, sef y targed a osodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd – a hynny er mwyn amddiffyn cymunedau yng Nghymru rhag brig yn nifer yr achosion. 

Mae'r frech goch yn lledaenu'n hawdd iawn ymhlith unigolion sydd heb eu brechu, yn enwedig mewn meithrinfeydd ac ysgolion. 

Gall plant sy’n cael eu heintio gyda’r clefyd dioddef salwch difrifol, gan orfodi derbyn triniaeth feddygol yn yr ysbyty. Mewn rhai achosion, fe allai’r frech goch arwain at farwolaeth.

"Mae angen i ni sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael eu hamddiffyn rhag heintiau a allai peryglu bywyd, fel y frech goch a'r Pas.  

“Gall y frech goch wneud plant yn sâl iawn a bydd rhai plant sy'n ei ddal yn dioddef cymhlethdodau sy'n newid bywyd. 

“Gall rhieni ddiogelu eu plant trwy wneud yn siŵr eu bod wedi'u brechu'n llawn. Os nad ydynt, dylid trefnu iddynt gael eu brechu cyn gynted â phosibl.” 

Gydag achosion o'r Pâs (whooping cough) hefyd ar gynnydd yng Nghymru, mae Syr Frank yn annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod wedi cael eu brechiadau rhag yr haint.  

'Camau ar frys'

Mae'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yn gofyn iddynt gymryd camau ar frys i sicrhau bod o leiaf 90% o fyfyrwyr ym mhob ysgol yng Nghymru wedi'u brechu'n llawn erbyn 31 Gorffennaf 2024. 

Bydd yr ymyrraeth hon wedi'i thargedu yn ategu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan fyrddau iechyd i ddal i fyny ag apwyntiadau i roi'r MMR.

"Pan fydd brigiad o achosion, gellid gofyn i fyfyrwyr a staff sydd heb eu brechu, neu sydd heb gael dos llawn o'r brechlyn, i ynysu am hyd at 21 diwrnod i atal y clefyd ffyrnig iawn hwn rhag lledaenu. 

"Rydyn ni'n gwybod y gall hyn darfu ar addysg a llesiant ein pobl ifanc ac mae'n rhaid i ni wneud popeth posibl i'w osgoi,” meddai.  

Mae’r frech goch yn peri perygl i rai yn fwy nag eraill, gan gynnwys babanod a phlant ifanc, menywod beichiog, a phobl ag imiwnedd gwan.

Mae’r MMR yn rhan o'r Rhaglen Imiwneiddio Rheolaidd i Blant - gydag un dos yn cael ei gynnig pan fydd plentyn yn flwydd oed ac ail ddos pan fydd yn 3 oed a 4 mis. Ni all babanod o dan un oed gael y brechlyn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.