Newyddion S4C

Cerddor profiadol yn dweud iddo golli 'degau o filoedd o bunnoedd' oherwydd cyfyngiadau teithio Brexit

03/02/2024

Cerddor profiadol yn dweud iddo golli 'degau o filoedd o bunnoedd' oherwydd cyfyngiadau teithio Brexit

Mae cerddor o fand roc poblogaidd wedi dweud iddo golli “degau o filoedd o bunnoedd” oherwydd cyfyngiadau ar y diwydiant cerddoriaeth yn dilyn Brexit.

Mae Peredur ap Gwynedd sy’n gitarydd yn y band Awstraliaid, Pendulum, wedi dweud iddo golli allan ar arian ers i’r newidiadau ddod i rym.

Wrth siarad â’r cyflwynydd Owain Williams ar raglen ddiweddaraf cyfres Taith Bywyd ar S4C nos Sul, dywedodd ei fod o’r gred taw Brexit yw’r “peth gwaethaf sydd wedi digwydd i Brydain ers yr Ail Ryfel Byd”.

“Pan o’n ni’n aelodau o’r EU o’n ni’n gallu symud nôl a mlaen i Ffrainc, i’r Eidal, i’r Almaen faint bynnag o’n ni eisiau...Brexit yw’r peth gwaetha’ sydd wedi digwydd i Brydain ers yr Ail Ryfel Byd.

“Alla i ddim maddau i unrhyw un sydd wedi pleidleisio drosto fe a fi’n beio nhw, beio pob blydi un ohonyn nhw.”

Ym mis Medi 2022 fe wnaeth Peredur roi tystiolaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi am effaith rheolau Brexit ar fywoliaeth cerddorion a thechnegwyr o’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl Peredur ap Gwynedd, mae dinasyddion y Deyrnas Unedig sydd â phasbort Prydeinig ac yn gweithio yn y maes cerddoriaeth byw wedi colli incwm a chyfleoedd gwaith.

“Mae e wedi effeithio arna i a bywydau pobol fi’n gweithio gyda,” meddai. 

'Lwcus'

Mae’r gitarydd wedi teithio’r byd gyda’i fand ac mae’n disgwyl cychwyn ar daith arall ledled Prydain ac Ewrop yn fuan.

Mae’r Cymro yn gerddor profiadol ac mi oedd yn chwarae gyda band Natalie Imbruglia pan gafodd hi lwyddiant ysgubol gyda’r sengl Torn, a wnaeth werthu dros 4 miliwn o gopïau.

“Gyda Torn, aeth e o ddim byd lan i’r stratosffer – sdim lot o gerddorion yn cael y profiad yna. Sai wedi gweld unrhyw beth fel e erioed. Ti ’di gweld e i gyd – i gyd.”

Ond mae Peredur yn adnabyddus i wylwyr S4C am resymau y tu hwnt i’r byd cerddorol hefyd.  

Mae’n gweithio fel pundit seiclo ar y sianel, ac mae’n falch iawn o’r cyfle i allu manteisio ar ei ddau hobi.

“Fi’n rili, rili, rili lwcus bod fi’n gallu neud y ddau na fel bywoliaeth.”

Bydd pennod Taith Bywyd Peredur ap Gwynedd ar gael i’w wylio nos Sul am 21.00 ar S4C, yn ogystal i’w gael ei ffrydio ar S4C Clic, iPlayer a phlatfformau eraill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.