Newyddion S4C

'Anrhydedd': Tad o Sir Fynwy â chlefyd motor niwron i gyflwyno'r bêl yng ngêm Cymru v yr Alban

03/02/2024
Mark Williams

Mae tad o Sir Fynwy sy’n byw â chyflwr motor niwron (MND) wedi dweud y bydd hi'n "anrhydedd" cyflwyno’r bêl i chwaraewyr rygbi Cymru a'r Alban yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Bydd Mark Williams, 39 oed o Abertyleri, yn cyflwyno’r bêl yn Stadiwm y Principality er cof am un o gewri’r byd rygbi, sef Doddie Weir o’r Alban, a fu farw o’r un cyflwr ym mis Tachwedd 2022.

Mae MND yn glefyd prin sy’n effeithio ar yr ymennydd a’r nerfau. Er nad oes unrhyw iachâd iddo, mae nifer o bobl yn byw gyda’r cyflwr am nifer o flynyddoedd.

Ac mae Mark Williams, sy’n byw gyda’i wraig Stephanie a’u dau o blant, Archie yn wyth oed a Niamh yn bedair, wedi’i “anrhydeddu’n llwyr” gan y cyfle i chwarae rôl yng ngêm Cwpan Doddie Weir ddydd Sadwrn er mwyn codi ymwybyddiaeth, meddai.

“Mae’n anrhydedd enfawr i gyflwyno’r bêl ar gyfer Cwpan Doddie Weir, nid yn unig fel cefnogwr brwd Cymru, ond fel llysgennad dros bwysigrwydd ein brwydr barhaus yn erbyn MND," meddai.

“Mae Doddie Weir yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth i’r gymuned MND gyfan, gan ddangos o hyd yr hyn sy’n bosib pan rydym yn wynebu’r clefyd erchyll yma.”

Image
Mark Williams
Mark Williams a'i deulu

‘Codi ymwybyddiaeth’

Mae’r Mr Williams yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am ei gyflwr, ac mae ef eisoes wedi cyflawni sawl her ar ran elusen Mr Weir, sef My Name’5 Doddie Foundation a gafodd ei sefydlu yn 2017.

Fe ddringodd y copa uchaf yn ne Cymru, Pen-y-Fan, yn ddiweddar, ac mae wedi cerdded cyfanswm o dros 800 o filltir yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

“Yr unig ffordd allwn ni atal pobl rhag wynebu’r un diagnosis erchyll rydw i, Doddie, a phawb arall sydd ag MND yw trwy godi arian ar gyfer rhagor o waith ymchwil," meddai.

“Y mwyaf yr ydym yn codi, mwy o siawns oll sydd efo ni i ddod o hyd i iachâd.”

Image
Doddie Weir
Doddie Weir

Mae’r Cymro Scott Quinnell yn gapten i dîm Cymru dros Doddie Aid, sef ymgyrch blynyddol yr elusen, ac mae’n falch iawn o’r hyn mae Mr Williams eisoes wedi’i gyflawni.

“Mae’r hyn mae e eisoes wedi cyflawni yn hollol anhygoel ac mae’n ysbrydoliaeth,” meddai.

Ychwanegodd Paul Thompson sy’n gyfrifol am ymgyrchoedd codi arian elusen My Name’5 Doddie Foundation: “Mae Mark yn llysgennad i bawb yng nghymuned MND, ac mae ei eiriau pwerus yn ein hatgoffa ni i gyd pam mae ymchwil i’r clefyd hwn yn allweddol.”

Lluniau gan My Name'5 Doddie Foundation/PA Wire a Jane Barlow/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.