Newyddion S4C

Y chwilio'n parhau am ddyn wedi i hylif peryglus gael ei daflu dros fam a'i phlant

02/02/2024
abdul ezedi.png

Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am ddyn a wnaeth daflu hylif ar fam a'i phlant a'u gadael gydag anafiadau fydd yn "newid eu bywydau". 

Mae Heddlu'r Met wedi dweud fod gan Abdul Ezedi, 35, o ardal Newcastle, "anafiadau sylweddol i ochr dde ei wyneb" ac ei fod wedi cael ei weld ddiwethaf mewn archfarchnad yng ngogledd Llundain nos Fercher.

Daw hyn wedi'r ymosodiad ar ddynes 31 oed a oedd gyda ei phlant sydd yn dair ac wyth oed. 

Maent yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog. 

Fe wnaeth yr heddlu ryddhau llun o leoliad olaf Abdul Ezedi ar Ffordd Caledonian yn Islington am 20:48 ddydd Iau.

Dywedodd Uwcharolygydd Heddlu'r Met Gabriel Cameron: "Mae'r llun wedi ei dynnu o siop Tesco, a'r gred yw fod Ezedi wedi prynu potel o ddŵr yno. Gadawodd y siop a throi i'r dde. 

"Mae'r llun yn dangos Ezedi gyda beth sy'n ymddangos yn anafiadau sylweddol i ochr dde ei wyneb. Mae hyn yn ei wneud yn wahanol.

"Os ydych chi'n gweld Ezedi, ffoniwch 999 ar unwaith. Ni ddylai neb fynd ato."

Ychwanegodd Mr Cameron fod y llu yn cydweithio gyda Heddlu Northumbria oherwydd "gallai Ezedi fod yn teithio yn ôl i Newcastle".

Y gred yw fod Ezedi wedi teithio i lawr o Newcastle ar ddiwrnod yr ymosodiad, ond nid yw ditectifs yn sicr o'r hyn a arweiniodd at y digwyddiad. 

Dywedodd Mr Cameron ei fod yn "drosedd ddifrifol" yn erbyn "dynes fregus".

Cafodd tri aelod arall o’r cyhoedd eu cludo i’r ysbyty hefyd ar ôl y digwyddiad wedi iddynt geisio rhoi cymorth i’r ddynes a'i phlant.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.