Menyw 40 oed wedi ei hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
02/02/2024
Mae menyw 40 oed wedi ei hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn ardal Abertawe.
Cafodd y fenyw oedd yn cerdded ar Heol Castell-nedd, Treforys, nos Fercher ei tharo gan Chevrolet Captiva gwyn.
Roedd y car yn teithio i’r de tuag at y gylchfan gyda Castle Bingo pan ddigwyddodd y ddamwain am 18:20, yn ôl Heddlu De Cymru.
Dywed yr heddlu fod y fenyw wedi cael anafiadau sydd yn peryglu ei bywyd.
Mae swyddogion yn apelio am dystion neu bobl sydd gyda lluniau dashcam a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400036408.